Datganiadau i'r wasg

Ymddiriedolaethau'r GIG 'ar eu hennill' drwy ostwng cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch

28/01/2009

'Ond mae lefelau salwch o hyd yn broblem sylweddol' dywed yr Archwilydd Cyffredinol

Arbedwyd mwy na £24 miliwn mewn amser staff gan y GIG yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2004 a mis Mawrth 2008, diolch i ostwng cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch. Ond, yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr Archwilydd Cyffredinol) mae absenoldeb oherwydd salwch yn dal i fod yn broblem sylweddol yn ymddiriedolaethau'r GIG - gan gostio arian ac amser ac yn y pen draw yn effeithio ar ansawdd gofal cleifion. Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn galw ar gyrff newydd y GIG, a fydd yn cael eu creu yn ddiweddarach eleni drwy ad-drefnu'r gwasanaeth, i ymgorffori arfer da reoli absenoldeb oherwydd salwch er mwyn gostwng y lefelau yn is eto. 

Ers mis Ebrill 2004, mae cyflogeion ymddiriedolaethau'r GIG wedi bod yn colli 14 diwrnod gwaith bob blwyddyn, neu ychydig yn fwy na 19 diwrnod calendr yn cynnwys penwythnosau ar gyfartaledd, drwy absenoldeb oherwydd salwch, yn seiliedig ar wythnos safonol o bum diwrnod yr wythnos. Mae hyn yn ostyngiad ers 2002-03 pan roedd y gyfradd ychydig yn fwy na 15 diwrnod gwaith a hanner bob blwyddyn, neu ychydig yn llai na 22 diwrnod calendr ar gyfartaledd. Mae adroddiad heddiw'n amcangyfrif fod y gostyngiad wedi creu o leiaf £6 miliwn y flwyddyn o amser staff ychwanegol yn y gwaith.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gosod targed blynyddol dreigl i bob ymddiriedolaeth gyflawni cyfradd absenoldeb oherwydd salwch o 4.2 y cant bob blwyddyn galendr. Ers mis Ebrill 2004, mae'r cyfartaledd ar gyfer ymddiriedolaethau'r GIG wedi sefydlogi rhwng 5.3 a 5.4 y cant o gymharu â 6.0 y cant yn 2002-03. Fodd bynnag, mae cyfraddau absenoldeb yn dal i amrywio llawer rhwng ymddiriedolaethau - rhwng 4.1 a 7.0 y cant ac mae'r rhan fwyaf o ymddiriedolaethau'n amau a yw'r targed o 4.2 y cant yn nod realistig. Mae adroddiad heddiw'n argymell y dylai'r targed gael ei ddileu gan gyflwyno dull craffach o osod targedau sy'n adlewyrchu amgylchiadau pob un o gyrff lleol a chenedlaethol newydd y GIG, gan ganolbwyntio ar welliant parhaus.

Nododd yr adroddiad fod ymddiriedolaethau'r GIG yn gyffredinol wedi gwella'r ffordd y maent yn rheoli absenoldeb oherwydd salwch. Mae targedau Llywodraeth y Cynulliad a'r ymgyrch i gyflawni arbedion effeithlonrwydd wedi helpu i ganolbwyntio ar yr angen i ostwng cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch. Mae'r rhan fwyaf o ymddiriedolaethau bellach wedi diweddaru ac wedi gwella eu polisïau absenoldeb oherwydd salwch ac mae pob un o ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru nawr yn cofnodi ac yn cyflwyno adroddiad ar gyfraddau salwch drwy'r system Cofnod Staff
 
Electronig a ddefnyddir ledled Cymru a Lloegr. Fodd bynnag, mae'r broses o ddatblygu'r cofnod yn ehangach wedi cymryd mwy o amser ac wedi bod yn fwy cymhleth na'r disgwyl, ac nid yw'r system eto'n cael ei defnyddio i'w llawn botensial er mwyn ategu'r gwaith o reoli absenoldeb oherwydd salwch. 

Tynnodd adroddiad y cyn-Archwilydd Cyffredinol yn 2004 sylw penodol at anghysondebau o ran darparu gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol i staff y GIG a phroblemau gydag amseroedd aros hir yn aml ar gyfer apwyntiadau atgyfeiriol. Mae adolygiad wedi'i gynllunio o ddarpariaeth Iechyd Galwedigaethol drwy'r GIG yng Nghymru yn mynd rhagddo o hyd. Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn datblygu canllawiau ar y we ar safonau, arfer da a pholisïau presennol yn ymwneud â materion Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol. Er hyn, mae ymddiriedolaethau'r GIG wedi cymryd camau i wella gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol lleol, er bod y materion a godwyd yn yr adroddiad blaenorol yn dal i beri pryder, o leiaf mewn rhai ymddiriedolaethau.

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer gwella, gan gynnwys:

Heddiw dywedodd Jeremy Colman, yr Archwilydd Cyffredinol:
'Mae ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru wedi gwneud peth cynnydd da wrth fynd i'r afael â phroblem barhaus cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch ond mae'r ffigurau dal yn rhy uchel o hyd. Bydd angen i gyrff newydd y GIG a gaiff eu creu ar ôl yr ad-drefnu yn ddiweddarach eleni, ymgorffori arfer da o fewn eu diwylliant sefydliadol, eu strwythurau rheoli a'u polisïau, gyda chymorth canllawiau clir gan Lywodraeth y Cynulliad.'

Nodiadau i Olygyddion: