Datganiadau i'r wasg

Y GIG yn cymryd camau i ddiogelu staff rhag trais ac ymddygiad ymosodol

18/02/2009

Ond erys rhai pryderon o hyd dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru

Mae tasglu, a sefydlwyd i helpu i ddiogelu staff y GIG rhag trais ac ymddygiad ymosodol, yn rhoi hwb newydd i wneud gwelliannau. Mae'r GIG wedi cymryd nifer o gamau i ddiogelu staff ond, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru mae problemau o hyd y mae angen mynd i'r afael â hwy. Canfu ei adroddiad dilynol, i Bwyllgor Archwilio Llywodraeth y Cynulliad, fod staff yn dal i fod yn amharod i roi gwybod am ddigwyddiadau; fod diffyg data meincnodi; a bod hyfforddi staff yn dal i fod yn broblem. Fodd bynnag, mae data ar ddigwyddiadau yn cael ei fonitro'n well, mae cyrff iechyd yn cymryd camau i atal a rheoli ymosodiadau, ac mae gwell cynlluniau ar waith i gynorthwyo staff yr effeithir arnynt.

Mae adroddiad heddiw 'Diogelu staff y GIG rhag trais ac ymddygiad ymosodol: Diweddariad' yn nodi'r cynnydd a wnaed ers cyhoeddi adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar y mater yn 2005 ac adroddiad dilynol gan Bwyllgor Archwilio'r Cynulliad yn 2006. Gwnaeth adroddiad y Pwyllgor Archwilio chwe argymhelliad ar gyfer gweithredu gan Lywodraeth y Cynulliad ac ymddiriedolaethau'r GIG.

Mae tystiolaeth bod camau a gymerwyd yn dilyn yr adolygiadau hyn wedi cael effaith gadarnhaol o ran mynd i'r afael â phroblem trais tuag at staff y GIG. Mae hyn yn cynnwys sefydlu'r tasglu gweinidogol, ym mis Hydref 2007, i osod safonau i ddiogelu staff a phenodi cyfarwyddwyr 'hyrwyddo' o bob un o Ymddiriedolaethau'r GIG, ym mis Tachwedd 2008, i weithredu ar argymhellion y tasglu.

Ond, dywed yr adroddiad, dair blynedd yn ddiweddarach, fod rhai o bryderon y Pwyllgor Archwilio yn dal heb eu datrys eto. Er enghraifft, er y byddai staff yn rhoi gwybod am achosion difrifol fel arfer, nid yw llawer o ddigwyddiadau yn cael eu cofnodi o hyd. Canfu'r adroddiad hefyd, er bod llawer o gyrff iechyd yn datblygu camau pellach i atal a rheoli digwyddiadau treisgar, megis treialu camerâu teledu cylch cyfyng o safon uwch mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys i helpu'r heddlu i gynyddu nifer yr erlyniadau llwyddiannus a gwella hyfforddiant i staff diogelwch, mae llawer o gamau yn dal heb eu cymryd eto. Er enghraifft, nid yw pob ymddiriedolaeth wedi darparu'r lefelau cywir o hyfforddiant staff i'r rhai sydd ei angen, fel y nodir yn y Cynllun Pasbort. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y Cynulliad, cyrff iechyd a phartneriaid eraill yn datblygu ffyrdd gwell o gynorthwyo staff yn dilyn digwyddiadau ac mae ymddiriedolaethau yn gweithio'n well gyda'r heddlu i fynd i'r afael â digwyddiadau treisgar.
 
Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman:
"Mae gwella diogelwch staff yn flaenoriaeth uchel i ymddiriedolaethau'r GIG a Llywodraeth y Cynulliad ac mae tystiolaeth bod pethau yn dechrau gwella o ganlyniad i'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ac ymddiriedolaethau'r GIG. Ond mae camau pellach y mae angen eu cymryd ac, am fod tan gofnodi yn dal i fod yn broblem, nid oes gennym ddarlun llawn o'r lefelau o drais ac ymddygiad ymosodol eto.

Nodiadau i Olygyddion: