27/03/2009
Adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr a'r Archwilydd Cyffredinol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae prosiect y Ddraig Goch a gynhaliwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD), Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Awdurdod Datblygu Cymru a fodolai ar y pryd (Awdurdodau Cymru) i ddarparu cyfleusterau atgyweirio awyrennau modern yn Sain Tathan, De Cymru wedi costio tua £113 miliwn i'r trethdalwr, er mai'r nod oedd arbed arian yr MoD ac amddiffyn swyddi yn yr ardal, yn ôl adroddiad ar y cyd a gyhoeddir heddiw gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a Swyddfa Archwilio Cymru.
Cafodd y prosiect ei sefydlu yn 2000 a chynhwysai'r broses o foderneiddio cyfleusterau'r MoD a oedd yn mynd yn hen, adeiladu uwch hangar i atgyweirio awyrennau jet cyflym a pharc busnes awyrofod a hyrwyddwyd gan Awdurdodau Cymru. DARA - yr Asiantaeth Atgyweirio Awyrennau Amddiffyn - oedd y prif denant bwriadedig, gyda'r rhan fwyaf o'i waith ar awyrennau jet cyflym yr RAF yn cael ei symud i mewn i gyfleuster pwrpasol. Fodd bynnag, ymrwymodd yr MoD i'r prosiect heb benderfynu ar ei gweledigaeth lawn ar gyfer cynnal awyrennau. Unwaith y cafodd y weledigaeth yma ei sefydlu, ond roedd hyn ar ôl i ddêl y Ddraig Goch gael ei chau, cyhoeddodd yr MoD yn 2005 y byddai DARA yn cau ei busnes awyrennau jet cyflym yn Sain Tathan, gan adael y safle heb ei denant angori erbyn mis Ebrill 2007. Dim ond £57 miliwn y mae'r prosiect uwch hangar wedi'i arbed mewn effeithlonrwydd (y rhoddwyd cyfrif amdano yng nghyfanswm y gost net o £113 miliwn) yn hytrach na'r arbedion a gynlluniwyd sef £263 miliwn. Mae dros £1 biliwn o arbedion cost wedi cael eu gwneud ar wahân drwy drosglwyddo'r gwaith atgyweirio i brif ganolfannau weithredu yr Awyrlu Brenhinol.
Hefyd, yn sgîl cau busnes awyrennau jet cyflym DARA collwyd llawer o swyddi yr oedd Awdurdodau Cymru wedi bwriadu ei atal yn wreiddiol drwy'r prosiect. Gobeithiwyd hefyd y gellid creu 4,000 o swyddi newydd dros 15 mlynedd drwy ddatblygu'r parc awyrofod, ond drwy gau busnes awyrennau jet cyflym DARA cafodd y cynlluniau hyn eu gohirio a'u cymhlethu a dim ond 45 o swyddi a grëwyd hyd yma.
Ni wnaeth yr MoD ac Awdurdodau Cymru weithio'n ddigon agos yn ystod y prosiect. Er yr oedd ganddynt amcanion ategol, nid oedd ganddynt ddiben cyffredin, gyda'r MoD â mwy o ddiddordeb mewn sicrhau bod awyrennau jet cyflym yn cael eu hatgyweirio'n fwy effeithlon ac Awdurdodau Cymru yn ymddiddori mewn diogelu a chreu swyddi yn Ne Cymru. Pan benderfynodd yr MoD nad safle Sain Tathan oedd y lleoliad mwyaf effeithlon mwyach i atgyweirio ei hawyrennau jet cyflym, nid oedd yr amcanion yn ategu ei gilydd mwyach. Nid oedd yr MoD ac Awdurdodau Cymru yn deall tybiaethau allweddol y naill a'r llall. Ni chafodd Awdurdodau Cymru wybod mor gynnar ag y gallent fod wedi am oblygiadau adolygiad yr MoD o systemau cynnal awyrennau jet cyflym i Sain Tathan. Fodd bynnag, roedd enghreifftiau o gydweithio effeithiol i fynd i'r afael â materion budd cyffredin allweddol, gydag Awdurdodau Cymru a'r MoD yn cydweithio ar farchnata'r safle.
Mae'r MoD ac Awdurdodau Cymru bellach yn cydweithio i sicrhau dyfodol y safle. Mae cynlluniau gan Mod yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd i sefydlu Academi Hyfforddiant Amddiffyn gan ddefnyddio'r uwch-hangar, y mae'r MoD ac Awdurdodau Cymru yn disgwyl iddi ddwyn manteision economaidd mawr i Dde Cymru. Mae'r MoD ac Awdurdodau Cymru yn disgwyl i'r Academi greu dros 5,500 o swyddi yn yr ardal (er bod traean yn debygol o gael eu llenwi gan staff sy'n adleoli o rannau eraill o'r DU). Mae Awdurdodau Cymry hefyd yn disgwyl y bydd yr Academi yn darparu ysgogiad am gynlluniau cyfredol am barc awyrofod, a fydd, o bosib, yn creu tua 2,000 o swyddi ychwanegol.
Dywedodd Tim Burr, pennaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol heddiw:
"Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn ac Awdurdodau Cymru wedi buddsoddi cryn dipyn o amser, ymdrech ac arian mewn creu cyfleusterau atgyweirio awyrennau modern yn Ne Cymru, gydag uwch hangar sy'n gwbl segur bron erbyn hyn. Fel mae'n digwydd, o dan yr Adolygiad o Hyfforddiant Amddiffyn dylai fod dyfodol i'r uwch hangar yn Sain Tathan, ond mae prosiect y Ddraig Goch yn tanlinellu bod angen i gyrff cyhoeddus fod wedi ystyried holl oblygiadau eu priod strategaethau cyn dechrau prosiectau ar y cyd."
Ychwanegodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru:
"Ni lwyddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ac Awdurdodau Cymru i gydweithio'n ddigonol yn ystod y prosiect. Er bod gan y ddau amcanion ategol am y rhan fwyaf o'r amser, ni wnaethant sefydlu diben cyffredin ar gyfer y prosiect na dealltwriaeth gyffredin o'u priod dybiaethau ynghylch dyfodol y safle. Mae prosiect y Ddraig Goch yn tynnu sylw at natur beryglus prosiectau mawr a chymhleth sy'n cynnwys llawer o gyrff cyhoeddus nad ydynt yn ddigon agored nac yn rhannu gwybodaeth"
Nodiadau i Olygyddion