Datganiadau i'r wasg

Mynegwch eich barn ar wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru

14/08/2009

Swyddfa Archwilio Cymru yn lansio arolwg i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl

Mae Swyddfa Archwilio Cymru am glywed gan unrhyw un rhwng 18 a 64 oed sydd wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl a ddarperir gan y GIG neu'r gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r Swyddfa'n cynnal archwiliad i ganfod faint o gynnydd sydd wedi'i wneud ers yr adolygiad mawr o wasanaethau iechyd meddwl i oedolion a gynhaliwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol yn 2005.

Mae'r tîm arolygu am i unigolion 18-64 oed rannu eu barn ar yr hyn sy'n gweithio'n dda yn eu tyb hwy, a'r hyn sydd angen ei newid, drwy arolwg dienw sy'n gyflym ac yn hawdd i'w gwblhau. Mae cymryd rhan yn yr arolwg hwn yn wirfoddol ac os bydd defnyddwyr gwasanaethau yn dewis peidio â chymryd rhan ni fydd yn effeithio ar y gofal y maent yn ei dderbyn.

Gall pobl gael gafael ar yr arolwg ar-lein drwy ymweld â www.wao.gov.uk. Fel arall, gallant gael gafael ar fersiwn papur o'r arolwg drwy ffonio 02920 320508 neu drwy ysgrifennu at Steve Ashcroft yn 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ.

Er bod y tîm yn croesawu sylwadau gan unrhyw un, ni all ymdrin ag achosion unigol pobl na rhoi cyngor arnynt. Ni all ychwaith ymateb i wybodaeth a gyflwynir, oni bai ei fod yn teimlo bod angen gwneud hynny.

Bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn defnyddio canfyddiadau'r arolygon hyn, ynghyd â gwaith arall o'r arolwg, i roi gwybod i sefydliadau, megis Llywodraeth Cynulliad Cymru, y GIG a chynghorau, beth y maent yn ei wneud yn dda, a beth sydd angen iddynt ei wella. Mae'r arolwg ar agor tân 26 Medi 2009.

Nodiadau i Olygyddion: