The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Newyddion > Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Datganiadau i'r wasg
Her cyllido gwasanaethau cyhoeddus
16/03/2010
‘Mae'n rhaid i Gymru newid ac arloesi er mwyn iddi gyflawni mewn sefyllfa ariannol anodd’, dywed yr Archwilydd Cyffredinol newydd
Mae angen i'r sector cyhoeddus yng Nghymru weithio mewn ffyrdd tra gwahanol er mwyn iddo ymateb i'r dirywiad economaidd a chynnal a gwella ansawdd y gwasanaethau a’u heffaith. Mae adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn rhagweld, dros y tair blynedd o fis Ebrill 2011, y gallai fod toriad mewn ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o tua £1.5 biliwn.

Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn nodi'r materion allweddol sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac yn taflu goleuni ar y gwersi a ddysgwyd yn ystod y pum mlynedd ers i Swyddfa Archwilio Cymru gael ei chreu. Mae gwaith Swyddfa Archwilio Cymru yn cwmpasu'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru felly mae mewn sefyllfa unigryw i allu edrych ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a nodi'r heriau a'r cyfleoedd cyffredin y mae angen i gyrff cyhoeddus fynd i'r afael â hwy a'u hystyried yn y dyfodol.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwariant ar wasanaethau cyhoeddus wedi cynyddu'n sylweddol. Dengys gwaith Swyddfa Archwilio Cymru fod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi gwella'n raddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Ond mae angen gwneud cynnydd sylweddol o hyd ac ni fydd y duedd hon o ran gwella'n raddol yn ddigon yn y dyfodol. Mae gostyngiadau mawr mewn cyllidebau a galw cynyddol am wasanaethau yn golygu y bydd angen mabwysiadu dull llawer mwy radical o weithredu.

Mae'n rhaid sicrhau bod gwella effeithlonrwydd yn rhan o'r ateb. Ond mae'r adroddiad yn rhybuddio yn erbyn mabwysiadu ymagwedd gul tuag at effeithlonrwydd sy'n seiliedig ar wneud mwy, neu'r un peth, gyda llai o arian, llai o staff a llai o amser. Gall hyn arwain, yn y pen draw, at wasgfa mewn man arall, megis gwasanaethau o safon is. Dywed adroddiad heddiw fod gwir angen i'r sector cyhoeddus ganolbwyntio ar gyflawni mwy, neu'r un peth, am lai o arian. Felly, yn hytrach na chanolbwyntio ar arbedion cost yn unig, yr hyn sydd ei angen yw cysylltiad clir rhwng effeithlonrwydd a gwell canlyniadau i ddinasyddion. Er mwyn gwneud hyn mae angen canolbwyntio ar ddulliau arloesol o weithredu ac ail-lunio gwasanaethau yn seiliedig ar wir anghenion a gofynion y dinesydd.

Mae'r adroddiad yn nodi meysydd allweddol i wasanaethau cyhoeddus ganolbwyntio arnynt – gan gynnwys strategaeth a chynllunio, rheoli ariannol, cydweithio, defnyddio data perfformiad yn fwy effeithiol, rheoli staff a gwneud defnydd gwell o asedau. Mae'r rhain yn feysydd pwysig i'r sector cyhoeddus cyfan.

Er mwyn helpu gwasanaethau cyhoeddus i ymdopi yn ystod cyfnod economaidd anodd, mae Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn lansio set o ddeunyddiau heddiw i helpu cyrff cyhoeddus i sicrhau effeithlonrwydd drwy arloesi:

  • Adroddiad sy'n cynnwys ymchwil academaidd ac astudiaethau achos a gomisiynwyd ar sut i wella gwasanaethau cyhoeddus a lleihau costau gan ddefnyddio dull Meddylfryd Systemau.
  • Rhestr wirio hunanasesu ar-lein ar gyfer effeithlonrwydd, a ddatblygwyd ar y cyd â Swyddfa Archwilio Gogledd Iwerddon ac Audit Scotland.
  • Adran newydd ar wefan Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnwys deunyddiau sy’n berthnasol i arloesi ac effeithlonrwydd.

Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Gillian Body:

“Mae yna gyfnod anodd ar y gweill ac mae angen i ni wneud penderfyniadau anodd. Ac, er mwyn ymdrin yn effeithiol â'r heriau hyn, mae angen i'r sector cyhoeddus newid ac arloesi. Mae angen strategaethau a chynlluniau clir arno, sy'n seiliedig ar wybodaeth dda i ategu dewisiadau anodd. Dylid rheoli risg ond ni ddylai'r sector cyhoeddus fod yn amharod i fentro. Dylid gwneud gwell defnydd o staff, adnoddau ac asedau. Ac mae angen i'r sector cyhoeddus gydweithio'n fwy, mewn ffordd gydgysylltiedig. Ond, uwchlaw pob dim, mae a wnelo â chanfod ffyrdd newydd o weithio sy'n seiliedig ar yr hyn sydd o bwys i ddinasyddion.”

Nodiadau i olygyddion:

  • Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar rai o'r materion allweddol sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar hyn o bryd.
  • Dengys Rhan 1 pa mor ddifrifol yw'r pwysau ariannol a wynebir gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wrth iddynt brofi'r amodau economaidd mwyaf anodd am genhedlaeth.
  • Mae Rhan 2 yn nodi rhai o'r gwersi allweddol o'n gwaith dros y pum mlynedd diwethaf a sut y gallant helpu gwasanaethau cyhoeddus i baratoi ar gyfer heriau yn y dyfodol.
  • I gael gweld deunyddiau arfer da Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer arloesi ac effeithlonrwydd, ewch i'n gwefan http://www.wao.gov.uk/
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yw hybu gwelliannau fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol a reolir yn dda sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da drwy'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
<< Previous article Next article >>