17/03/2010
Cyhoeddi adolygiad archwilio ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru a Llywodraeth y Cynulliad
Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi cyhoeddi adroddiad heddiw ar ganlyniad ymchwiliad archwilio, a wnaeth ganfod ddiffyg trefniadau rheoli a llywodraethu sylfaenol yn rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc, ger Wrecsam. Mae'r adroddiad hefyd yn ystyried y camau unioni a gymerwyd i ddiogelu asedau Plas Madoc, a'r camau y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu cymryd i sicrhau nad yw'r methiannau a welwyd ym Mhlas Madoc yn digwydd eto.
Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, ynghyd ag adroddiad Gwasanaeth Archwilio Mewnol Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar gael ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru www.wao.gov.uk. Mae'r materion a godwyd yn yr adroddiad archwilio mewnol bellach wedi'u cyfeirio at Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod methiannau sylfaenol wedi treiddio i holl weithrediadau'r bartneriaeth ac yn awgrymu nad oedd y rhai â chyfrifoldeb am lywodraethu yn ystyried safonau cydnabyddedig bywyd cyhoeddus na'r angen i ddarparu gwerth am arian wrth ddefnyddio arian cyhoeddus.
Mae Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc yn cael mwy na £500,000 y flwyddyn, sy'n cyfrif am fwyafrif ei gyllid blynyddol o £735,000, gan Lywodraeth y Cynulliad drwy ei rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Mae hefyd yn cael arian grant gan ffynonellau eraill, gan gynnwys y Gronfa Loteri Fawr, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Cododd trydydd parti bryderon am drefniadau llywodraethu Plas Madoc i Archwilydd Cyffredinol Cymru (ar y pryd) ym mis Mai 2009. O ystyried natur a difrifoldeb yr honiadau a wnaed, lansiwyd ymchwiliad ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru a Gwasanaeth Archwilio Mewnol Llywodraeth y Cynulliad. Lluniwyd adroddiad archwilio interim ym mis Tachwedd 2009, a nododd fethiannau sylfaenol o ran trefniadau llywodraethu a rheoli ariannol. Yna cymerodd Llywodraeth y Cynulliad gamau sydyn i fynd i'r afael â'r materion a godwyd. O ganlyniad, cafodd dau aelod o staff Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc eu hatal o'u swyddi.
Mae'r adroddiad a gyhoeddir heddiw gan yr Archwilydd Cyffredinol yn amlinellu canfyddiadau'r adroddiad archwilio mewnol ac yn ystyried sut ymatebodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i'r pryderon a godwyd. Mae'n nodi'r camau sy'n cael eu cymryd ar hyn o bryd i leihau'r risg y bydd y problemau difrifol ym Mhlas Madoc, nad aethpwyd i'r afael â hwy am nifer o flynyddoedd, yn digwydd eto, ac y byddant yn parhau heb eu canfod, mewn Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf eraill.
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Gillian Body, heddiw:
"Er bod yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at fethiannau difrifol ym Mhlas Madoc, mae'n galonogol gweld bod Llywodraeth y Cynulliad yn dysgu'r gwersi ac yn cymryd mesurau i gryfhau'r trefniadau monitro ar gyfer partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru. Dylai Llywodraeth y Cynulliad roi'r mesurau hyn ar waith ar fyrder er mwyn sicrhau na fydd yr hyn a welwyd ym Mhlas Madoc yn digwydd eto."
Nodiadau i olygyddion: