Datganiadau i'r wasg

Mae Awdurdod Heddlu De Cymru yn 'perfformio'n ddigonol' ac mewn sefyllfa gadarn i wella ymhellach

17/06/2010

Mae Awdurdod Heddlu De Cymru'n 'perfformio'n ddigonol' ar y cyfan, yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'n perfformio'n dda ym meysydd craffu ar berfformiad ac ymgysylltu â chymunedau ac mae mewn 'sefyllfa gadarn i wella ymhellach'.

Canfu'r arolygwyr fod Awdurdod Heddlu De Cymru wedi datblygu dull mwy cadarn o arwain dros y pum mlynedd diwethaf a bod perthynas fwy effeithiol, adeiladol a heriol bellach gyda Heddlu De Cymru.

Mae'n cydnabod y pwysau y mae'r heddlu yn eu hwynebu o ran adnoddau ac yn ariannol ac mae wedi cymeradwyo Prosiect Diwygio - adolygiad eang ac uchelgeisiol o'r ffordd y caiff De Cymru ei blismona er mwyn sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd yn cael eu cynnig i'r cyhoedd gyda'r adnoddau sydd ar gael.

Mae Awdurdod Heddlu De Cymru yn cynnwys 19 o aelodau (10 cynghorwr ac 9 aelod annibynnol) ac mae'n gyfrifol am sicrhau heddlu effeithlon ac effeithiol i Dde Cymru ac am ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif.

Dywedodd John Herniman, Partner Swyddfa Archwilio Cymru, heddiw:

"Mae perfformiad Awdurdod Heddlu De Cymru'n ddigonol, ar y cyfan, ond mae wedi perfformio'n dda o ran ei rôl graffu ac ymgysylltu â chymunedau. Mae'r Awdurdod wedi gwella'n amlwg mewn nifer o feysydd dros y pum mlynedd diwethaf - gyda'i ddull mwy cadarn o arwain a dealltwriaeth well o reoli strategol a pherfformiad. Mae mewn sefyllfa gref i wella hyd yn oed ymhellach - yn enwedig os bydd yr Awdurdod yn llwyddo i reoli'r pwysau ariannol y mae'n eu hwynebu a chyflawni'r amcanion uchelgeisiol sydd wedi'u nodi yn ei raglen newid trawsnewidiol - Prosiect Diwygio."

 Ymhlith y cryfderau mae'r canlynol:

Ymhlith y meysydd ar gyfer gwella mae'r canlynol:

Mae copïau o'r adroddiad ar gael gan Awdurdod Heddlu De Cymru neu ar wefan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn http://www.hmic.gov.uk/INSPECTIONS/Pages/PoliceAuthorityInspections.aspx ac ar wefan SAC yn www.wao.gov.uk

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae Awdurdod Heddlu De Cymru yn un o'r 43 o awdurdodau'r heddlu yng Nghymru a Lloegr. Mae'n gyfrifol am sicrhau heddlu effeithlon ac effeithiol ar gyfer De Cymru ac am ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif.
  2. Mae arolygiad o awdurdod heddlu yn darparu adroddiad syml mewn ffordd syml ar ba mor dda y mae pob awdurdod heddlu yn perfformio. Mae'n annog awdurdodau'r heddlu i ganolbwyntio ar welliant parhaus ac yn darparu her annibynnol gadarn i ysgogi newid cadarnhaol. Yn y pen draw, mae'n ymwneud â gweithio i wella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir i bobl leol gan awdurdodau'r heddlu.
  3. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ymdrin â phob sector o'r llywodraeth, ac eithrio'r rhai a gedwir i lywodraeth y DU. 
  4. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, fel pennaeth Swyddfa Archwilio Cymru, naill ai'n archwilio cyrff megis Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn uniongyrchol, neu, yn achos llywodraeth leol, yn penodi archwilwyr i wneud hynny.
  5. Ei gwaith yw hyrwyddo gwelliannau fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian.
  6. Gellir cael rhagor o wybodaeth am Swyddfa Archwilio Cymru yn: www.wao.gov.uk
  7. Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn arolygiaeth annibynnol sy'n arolygu gwasanaethau plismona er budd y cyhoedd ac yn archwilio'n drwyadl effeithiolrwydd heddluoedd ac awdurdodau er mwyn mynd i'r afael â throsedd a therfysgaeth, gwella'r system cyfiawnder troseddol a chodi hyder.
  8. Gellir cael rhagor o wybodaeth am Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn: http://www.hmic.gov.uk