Datganiadau i'r wasg

Gallai'r heddlu arbed hyd at £1 biliwn yn ôl cyrff gwarchod

20/07/2010

Yn ôl y tri chorff gwarchod cenedlaethol, y Comisiwn Archwilio, Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi a Swyddfa Archwilio Cymru, gallai'r heddlu yng Nghymru a Lloegr arbed hyd at £1 biliwn (12% o'r arian a geir gan lywodraeth ganolog) heb leihau nifer yr heddlu sydd ar gael. Mewn dau adroddiad maent yn amlinellu lle y gellir gwneud arbedion, yr effaith ar yr heddlu a'r cyhoedd ac effaith debygol unrhyw doriadau pellach.

Mae adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi, 'Valuing the Police', yn dangos mai ond 11% o'r heddlu sydd ar gael i'r cyhoedd ar y stryd, er gwaethaf cynnydd o flwyddyn i flwyddyn mewn cyllidebau dros y 40 mlynedd diwethaf. Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn rhybuddio y caiff nifer yr heddlu sydd ar gael i'r cyhoedd ei leihau ymhellach yn sgîl y toriadau mewn cyllidebau sydd ar y gweill, oni chaiff yr heddlu ei ailgynllunio'n llwyr.

Yn yr adroddiad ar y cyd - 'Sustaining value for money in the police service'  - mae'r tri sefydliad yn dangos lle y gellir arbed arian: chwalu seilos gan annog heddluoedd i gydweithio a phroses fwy effeithlon o sicrhau bod nifer yr heddlu sydd ar ddyletswydd yn cyfateb yn well i'r risg o droseddau er mwyn delio â'r amrywiaeth o ran galw.

Mae'n nodi bod £13.7 biliwn wedi'i wario ar yr heddlu yn 2008/09, sydd 47 y cant yn fwy na'r hyn a wariwyd yn 1997/98. Cafodd 80 y cant o'r ffigur hwn ei wario ar staff. Mae rhai heddluoedd wedi dangos sut y gellid arbed £270 miliwn ar draws y gwasanaeth drwy ddefnyddio mwy o staff sifil.

Mae adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn rhybuddio, er na fydd arbed 12% yn hawdd, y byddai arbed mwy na hynny yn arwain at leihad yn nifer yr heddlu sydd ar gael. Byddai hyn yn golygu llai o heddlu ar y stryd a llai o heddlu i ymateb i alwadau brys a galwadau nad ydynt yn rhai brys.

Gallai prosesau caffael gwell (megis prynu gwasanaethau fforensig, cerbydau fflyd) arbed tua £100 miliwn a gellid arbed hyd at £140 miliwn drwy leihau costau cefn swyddfa. Mae rhai heddluoedd wedi cydweithio i arbed miliynau: Mae Swydd Bedford a Swydd Hertford yn rhannu Uned Troseddau Mawr a gweithiodd pedwar gwasanaeth heddlu Cymru gyda'i gilydd gan arbed £3.3 miliwn ar brynu nwyddau a gwasanaethau yn 2008/09. Nid yw heddluoedd sy'n gwario mwy o reidrwydd yn well nag eraill, yn ôl casgliad yr adroddiad.

Yn 2008/09, gwariodd 32 allan o'r 43 heddlu lai na'r flwyddyn flaenorol. Ond mewn 10 o'r 16 heddlu yr ymwelwyd â hwy ar gyfer yr adroddiad ar y cyd hwn, nid oedd y dull o sicrhau effeithlonrwydd yn debygol o ateb yr her ariannol sy'n dod i'r amlwg. Dangosodd adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi mai dim ond un o bob pum heddlu a oedd wedi paratoi'n ddigonol ar gyfer toriadau yn y gyllideb - roedd un o bob tri heb baratoi'n ddigonol.

Er bod troseddau wedi lleihau 45 y cant ers 1995, mae plismona modern yn golygu mwy na mynd i'r afael â throseddau: mae'n golygu delio â throseddau cyfundrefnol, gwrthderfysgaeth, ymddygiad gwrthgymdeithasol, cymorth i ddioddefwyr a gwarchod plant. Canfu Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi bod y galw ar yr heddlu heddiw wedi newid yn sylweddol. Mae biwrocratiaeth gynyddol ac arbenigeddau wedi tynnu swyddogion i ffwrdd o'r rheng flaen - ar adeg pan fo'r cyhoedd wedi nodi'n glir eu bod am weld mwy o heddlu ar y strydoedd. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae nifer y swyddogion gwarantol sy'n gweithio yn y gymuned wedi gostwng 1,429 - er bod nifer swyddogion yr heddlu wedi cynyddu. Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn rhybuddio bod angen ailgynllunio trefniadau plismona yn llwyr, gan ddarparu fframwaith newydd sy'n diogelu 11% o'r heddlu sydd ar gael i'r cyhoedd ar hyn o bryd.

Dywedodd Michael O'Higgins, Cadeirydd y Comisiwn Archwilio: 'Bydd angen arweinyddiaeth gadarn ar heddluoedd gan wleidyddion, awdurdodau'r heddlu a phrif gwnstabliaid er mwyn arbed arian heb effeithio'n andwyol ar y gwasanaethau sydd ar gael i'r cyhoedd. Bydd cyflawni gwell gwerth am arian wrth blismona yn her, ond mae'n bosibl. Mae llawer o heddluoedd wedi dangos sut i arbed arian a gwella perfformiad gan gynnal hyder y cyhoedd ar yr un pryd - mae rhai wedi gwneud hyn gyda llai o swyddogion yr heddlu hyd yn oed. A thrwy graffu mwy ar wariant yr heddlu ar lefel leol, gellir helpu heddluoedd sy'n gwario mwy.'

Dywedodd Syr Denis O'Connor, Prif Arolygydd Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi:
'Yr her i wasanaeth yr heddlu yw lleihau gwariant heb effeithio'n andwyol ar hyder y cyhoedd. Mae ein hadroddiadau'n dangos bod rhai heddluoedd yn paratoi am y toriadau anochel mewn cyllidebau, ond nid yw llawer o rai eraill wedi paratoi'n ddigonol hyd yma. Heddiw, rydym yn annog yr heddlu, rheolwyr a gwleidyddion sy'n gwneud penderfyniadau strategol ynghylch dyfodol plismona yng Nghymru a Lloegr, i ddefnyddio ein hadroddiadau i archwilio eu dewisiadau'n drylwyr fel na chaiff diogelwch na lles y cyhoedd eu rhoi mewn perygl.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Gillian Body: 'Mae'n bwysicach nag erioed i gyflawni'r gwerth gorau posibl am arian gan ddarparu'r lefel uchaf o wasanaeth i drethdalwyr. Nid yw heddluoedd sy'n gwario mwy yn well nag eraill - mae rhai wedi llwyddo i arbed miliynau o bunnoedd drwy ddefnyddio mwy o staff sifil.'

Mae'r adroddiad ar y cyd hefyd yn nodi bod angen i heddluoedd ddefnyddio dull trawsnewidiol gan ddechrau gydag asesiad bygythiad, niwed a risg i wneud arbedion mawr a chynnal perfformiad. Dylai gwariant yr heddlu adlewyrchu llwyddiant mewn perthynas â lleihau troseddau. Dylai asesiadau lleol nodi'r blaenoriaethau gan ystyried patrymau troseddu newidiol i bennu lle mae angen buddsoddi a lle y gall heddluoedd leihau gwariant.

Canfu adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi nad yw patrymau sifft yr heddlu yn bodloni dymuniad y cyhoedd o ran nifer yr heddlu a ddylai fod ar gael - roedd mwy o heddlu ar gael ar fore dydd Llun nac ar nos Wener. Mae'r adroddiad yn dangos bod hyder y cyhoedd yn cynyddu wrth i nifer yr heddlu sy'n gweithio yn y gymuned gynyddu.

Mae'n galw am broses o ailgynllunio trefniadau plismona i ddelio â thoriadau mewn cyllidebau ac yn nodi y dylid gwneud ymdrech ddwys i herio pob darn o wariant, gan gynnwys cymorth, gweithredol a'r rheng flaen. Dylai nifer yr heddlu sydd ar gael fod yn flaenoriaeth, a dylai'r broses ddiwygio gael ei harwain yn lleol. Mae'r adroddiad yn hyrwyddo 'pensaernïaeth newydd' gyda'r llywodraeth ganolog a'r sector plismona yn cydweithio i gyflawni toriadau'n ofalus.   

Nodiadau i olygyddion