17/08/2010
Nid oedd y gweithdrefnau ar gyfer adolygu ceisiadau yn ddigon cadarn, meddai'r Archwilydd Cyffredinol
Mae adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn asesu a gafodd arian cyhoeddus a ddefnyddiwyd i gefnogi cwmni cydweithredol i weithwyr yn Sir Benfro ei ddyfarnu'n ddiduedd. Mae hefyd yn ystyried a oedd grant Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn briodol ac yn unol â'r meini prawf y cytunwyd arnynt.
Cynhaliwyd yr ymchwiliad mewn ymateb i bryderon a gododd aelodau o'r cyhoedd gyda Swyddfa Archwilio Cymru.
Canfu'r adroddiad fod yr arian cyhoeddus a ddyfarnwyd i'r cwmni cydweithredol i weithwyr, sef Calon yn Tyfu Cyf (Calon), yn bodloni amodau lefel uchel y cynllun grant. Ond nid oedd meini prawf na gweithdrefnau'r cynllun ar gyfer adolygu ceisiadau yn ddigon cadarn. Cynyddodd hyn y perygl na fyddai pobl yn y gymuned yn gallu cymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau ynghylch y defnydd a wneir o'r coetir ac na chaiff buddsoddiad ei ddiogelu, o bosibl, ar gyfer y pwrs cyhoeddus dros amser.
Cafodd Calon, cwmni cyfyngedig drwy warant, gyllid o 100% i brynu coetir Ffynnone a Chilgwyn yng Ngogledd Sir Benfro gan gynllun grant (Cydcoed*) y bwriedir iddo roi arian i grwpiau cymunedol. Ar ôl prynu'r coetir hwn, roedd Calon yn gymwys i gael rhagor o arian drwy werthu coed ar y tir ac arian grant ychwanegol a ddyluniwyd i gefnogi'r rheolaeth gynaliadwy o goetir.
Ni wnaeth Comisiwn Coedwigaeth Cymru ymgysylltu â'r cyhoedd yn y gymuned lleol cyn dyfarnu'r grant i sicrhau bod Calon yn cynrychioli'r gymuned na mesur graddau'r gefnogaeth leol. Yn ogystal â'r diffyg ymgynghori mynegodd aelodau o'r cyhoedd bryderon ynglyn â didueddrwydd ac annibyniaeth wrth asesu, prosesu a monitro cais Calon am grant.
Canfu'r adroddiad, y canlynol:
Mae'r adroddiad yn gwneud yr argymhellion canlynol:
Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Gillian Body:
"Rwy'n gobeithio y bydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn dilyn fy argymhellion i geisio cynyddu cyfranogiad y gymuned mewn prosesau gwneud penderfyniadau ynghylch y coetir a rhoi prosesau rheoli prosiect cadarnach ar waith o ran cynlluniau grant. Nawr yn fwy nag erioed, rhaid i ni wneud yn siwr bod arian cyhoeddus yn cael ei ddiogelu tra'n darparu gwasanaeth o'r lefel uchaf i'r gymuned."
Nodiadau i Olygyddion: