Datganiadau i'r wasg

Pecyn cymorth newydd yn profi effeithlonrwydd a gwerth am arian yr heddlu

07/09/2010

Bydd amrywiaeth o adnoddau a holiaduron ar-lein a gyhoeddir heddiw yn helpu gwasanaethau'r heddlu i wella gwerth am arian.

Lluniwyd y pecyn o ddeunyddiau hunanasesu gwirfoddol gan y Comisiwn Archwilio a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'n ategu adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf ar y cyd ag Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi, sef 'Cynnal gwerth am arian yng ngwasanaeth yr heddlu' Cyswllt yma.

Mae'r adnoddau, sydd ar gyfer cwnstabliaethau (heddluoedd) ac aelodau awdurdodau'r heddlu - mae Cymdeithas Awdurdodau'r Heddlu hefyd wedi cyfrannu i hyn - yn helpu gweithwyr proffesiynol i wneud arbedion heb i hynny gael effaith andwyol ar ddiogelwch y cyhoedd.

Gall Gwestiynau herio i awdurdodau'r heddlu fod yn ddefnyddiol fel eitem mewn gweithdy. Mae'r cwestiynau a'r ymatebion enghreifftiol yn y pecyn cymorth hwn yn helpu awdurdodau'r heddlu i herio'r arbedion cyfredol a'r trefniadau effeithlonrwydd sydd ar waith mewn heddluoedd ac i gytuno ar flaenoriaethau ar gyfer gwella. Mae'r cwestiynau'n dilyn deg nodwedd effeithlonrwydd yr heddlu a nodwyd yn yr adroddiad ar y cyd.

Mae set o gwestiynau hunanasesu ar gyfer awdurdodau'r heddlu yn eu helpu i bennu pa mor dda y gallant roi'r negeseuon a gaiff eu cyfleu yn yr adroddiad ar y cyd ar waith. Hefyd edrychir i weld sut mae awdurdod yr heddlu yn perfformio mewn perthynas â deg nodwedd effeithlonrwydd yr heddlu er mwyn asesu lle y mae angen iddo wella.

Mae hunanasesiad heddluoedd yn darparu set o gwestiynau gwella y gellir cytuno ar sut i ymateb iddynt. Mae'r canllaw hwn ar hunanasesu yn rhoi cyfle i heddluoedd ddechrau defnyddio'r pecyn cymorth sydd ar gael ar wefan y Rhwydwaith Gwella, sy'n anelu at wella effeithlonrwydd a gwerth am arian. Caiff heddluoedd eu helpu i nodi cryfderau a gwendidau o ran eu harbedion cyfredol a'u trefniadau effeithlonrwydd. Unwaith eto, mae'r cwestiynau hyn yn defnyddio deg nodwedd effeithlonrwydd yr heddlu a geir yn yr adroddiad ar y cyd. Mae'r ymatebion o ran gweddnewid yn seiliedig ar arferion gwirioneddol ac enghreifftiau yn yr adroddiad.

Mae Gwireddu arbedion a buddiannau perfformiad yng ngwasanaeth yr heddlu yn becyn cymorth arbennig sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y rheini sy'n gyfrifol am raglenni arbedion ac effeithlonrwydd. Gellir defnyddio ei egwyddorion i reoli prosiectau unigol. Mae deall ac yna gwireddu buddiannau busnes yn rhan o'r dull gweddnewidiol o barhau i wneud arbedion drwy gydol y rhaglen. Gall heddluoedd sy'n rheoli buddiannau ganolbwyntio'n gliriach ar flaenoriaethau a nodir yn eu hasesiad o fygythiadau, niwed a risg. Yna gellir gwneud arbedion drwy hepgor y materion â'r flaenoriaeth isaf.

Yn olaf, ceir dolen i'r adroddiad 'Working better together? - Managing local strategic partnerships', a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Archwilio ym mis Ebrill 2009. Mae pecyn cymorth a chynhyrchion gwella ar-lein ar gael ochr yn ochr â'r adroddiad ar wefan y Rhwydwaith Gwella drwy gyfrwng y cyswllt hwn. Nid oes rhaid defnyddio'r pecyn cymorth hwn. Mae wedi'i gynllunio i helpu partneriaethau strategol lleol i wella drwy ddarparu cwestiynau ac ymatebion yn ymwneud â saith thema, ac mae'n cysylltu ag astudiaethau achos a chanllawiau. Mae'r cwestiynau a geir yn y pecyn cymorth yn defnyddio dull 'system gyfan' o wella perfformiad, fel y defnyddir yn yr adroddiad cenedlaethol.

Gellir dod o hyd i'r adnoddau drwy gyfrwng y cyswllt hwn.

Nodiadau i olygyddion

Rhagor o wybodaeth

Y Comisiwn Archwilio, Mark Nicholson, Ffôn 0844 7982135,
m-nicholson@audit-commission.gov.uk

Swyddfa Archwilio Cymru, Sasha Mansworth, Ffôn 02920 320517, sasha.mansworth@wao.gov.uk

Cymdeithas Awdurdodau'r Heddlu, Chris Cairns, Ffôn 020 7664 3174, chris.cairns@lga.gov.uk