Datganiadau i'r wasg

Nid yw dull ariannu ysgolion arbennig yng Nghymru yn canolbwyntio'n ddigonol ar yr angen cyfredol

30/09/2010

Ond mae ysgolion yn parhau i wneud defnydd da o adnoddau, dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru

Mae ysgolion arbennig yng Nghymru yn gwneud defnydd da o'r arian sydd ar gael, ond nid yw llawer o gynghorau wedi adlewyrchu'r amgylchiadau newydd sy'n wynebu ysgolion wrth benderfynu ar faint o arian a chymorth i'w rhoi.

Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Fe'i comisiynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel rhan o adolygiad o Anghenion Addysgol Arbennig ledled Cymru.

Canfu'r adroddiad hwn fod ariannu yn anghyson. Gwelwyd achosion o ysgolion arbennig yn darparu gwasanaethau i ddisgyblion sydd ag anghenion tebyg ond sy'n derbyn lefelau gwahanol iawn o arian. Ond, er gwaethaf hyn, mae ysgolion yn rheoli eu cyllid yn dda ar y cyfan. Er enghraifft, mae dyfarniadau arolygiadau Estyn yn gadarnhaol ymron bob un o'r ysgolion arbennig a gynhelir. Mae rheolwyr ysgolion yn gweithio'n dda gyda chynghorau i fonitro gwariant yn ofalus ac roedd lefelau'r cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd 2008-09 yn ddarbodus, sef 5.8 y cant ar gyfartaledd.

Mae'r adroddiad yn cyfeirio at nifer o wendidau yn y ffordd mae cynghorau yn ariannu ysgolion. Er enghraifft, prin yw'r cynghorau sydd wedi cymharu cost eu darpariaeth o ysgolion arbennig â chostau darpariaeth cynghorau eraill. Mae dadansoddiad o'r fath yn helpu i sicrhau bod gwariant ar ysgolion arbennig yn werth da am arian yng nghyd-destun cyllideb ehangach cyngor.

Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, bu cynnydd o ran difrifoldeb a chymhlethdod anghenion disgyblion sy'n mynychu ysgolion arbennig. O ganlyniad i effaith gyfunol y newidiadau hyn, nid yw'r sail a ddefnyddir i ddyrannu adnoddau i ysgolion arbennig mewn llawer o gynghorau yn briodol mwyach.

Er y ceir enghreifftiau o arfer da, a amlygir yn yr adroddiad hwn, bu llawer o gynghorau yn araf yn adlewyrchu newidiadau cyd-destunol yn eu dyraniadau cyllidebol a'u fformiwlâu ariannu ar gyfer ysgolion arbennig.

Mae'r adroddiad heddiw yn nodi nifer o argymhellion i gynghorau yng Nghymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru ac ysgolion arbennig a gynhelir, gan gynnwys:

Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Gillian Body:

"Mae angen cynnal adolygiad sylfaenol o drefniadau ariannu ysgolion arbennig yng Nghymru. Mae'r dull presennol yn anghyson ac nid yw'n canolbwyntio'n ddigonol ar yr hyn sydd ei angen ar ysgolion - y mae llawer ohonynt yn fwy o ran maint a chanddynt achosion mwy difrifol a mwy cymhleth na'r hyn a welwyd ugain mlynedd yn ôl. Er bod ysgolion, ar y cyfan, yn gwneud defnydd da o'r arian sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd, byddai diwygio'r system yn helpu i sicrhau y gallant ddiwallu anghenion disgyblion yn gyson ledled Cymru."

Nodiadau i Olygyddion: