Datganiadau i'r wasg

Archwilydd Cyffredinol Newydd i 'chwyldroi' dull llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru

08/10/2010

Bydd y cynlluniau yn gwneud SAC yn fwy 'tryloyw, atebol ac agored', yn ôl Huw Vaughan Thomas

Yn ystod ei wythnos gyntaf yn ei swydd, mae Archwilydd Cyffredinol newydd Cymru wedi amlinellu ei gynlluniau i wella'r ffordd y mae Swyddfa Archwilio Cymru yn dangos atebolrwydd, tryloywder a rheolaeth agored.

Mae ei argymhellion ar gyfer trefniadau llywodraethu newydd mewn papur. Bwriad yr Archwilydd Cyffredinol newydd - Huw Vaughan Thomas - yw sicrhau bod y trefniadau newydd ar waith yn llawn erbyn 1 Ebrill 2011.

Mae a wnelo llywodraethu corfforaethol â'r ffordd y caiff sefydliadau eu cyfarwyddo a'u rheoli. Mae a wnelo trefniadau llywodraethu corfforaethol â gwneud y pethau cywir yn y ffordd gywir ar yr adeg gywir i gyflawni amcanion y sefydliad mewn ffordd dryloyw ac atebol, gan sicrhau'r risg leiaf posibl a'r perfformiad gorau posibl. 

Nododd adolygiad diwydrwydd dyladwy mewnol Swyddfa Archwilio Cymru, sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd, feysydd yr oedd angen eu gwella er mwyn i'r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru allu dangos atebolrwydd, tryloywder a rheolaeth agored. Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i fynd i'r afael â'r materion hyn a bwriad cynigion yr Archwilydd Cyffredinol newydd yw cymryd camau pellach a hynny'n gyflym.

Ymhlith ei gynigion mae:

Er mwyn cyflawni ei rôl, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru fod yn gwbl annibynnol ar ddylanwad gwleidyddol neu ddylanwad arall dros yr hyn a archwilir ganddo a'r ffordd y mae'n cyflwyno ei ganfyddiadau. Lluniwyd y trefniadau llywodraethu newydd i amddiffyn yr annibyniaeth hon yn gadarn, gan sicrhau ar yr un pryd bod yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru yn atebol yn briodol am y gwaith archwilio a gyflawnir ganddynt a'r arian cyhoeddus a gaiff ei wario ganddynt.

Heddiw, dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas
"Ar hyn o bryd mae trefniadau llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru yn wallus ac nid ydynt yn darparu'r gwiriadau na'r cydbwysedd angenrheidiol a ddylai fodoli mewn sefydliadau a reolir yn dda yn y sector preifat neu'r sector cyhoeddus. Dyma pam bod angen chwyldroi pethau. Dros y saith mis nesaf byddaf yn cyflwyno newidiadau mawr a fydd yn gwneud Swyddfa Archwilio Cymru yn fwy tryloyw, atebol ac agored."

Nodiadau i Olygyddion: