Datganiadau i'r wasg

Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi adroddiad newydd ar Gyngor Gwynedd

28/01/2011

Heddiw mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar Gyngor Gwynedd sy'n ystyried pa mor dda y mae'r Cyngor yn gwella ei wasanaethau.

Paratowyd yr Adroddiad Gwella Blynyddol gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae'n gofyn a yw'r Cyngor:

• wedi'i reoli'n dda
• yn gwasanaethu pobl yn dda
• yn cefnogi pobl mewn angen
• yn helpu pobl i ddatblygu
• yn helpu i greu lle diogel, ffyniannus a phleserus i fyw ynddo
• yn gwybod beth sydd angen iddo ei wneud i wella

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar flaenoriaethau'r Cyngor ei hun ar gyfer gwella, gan nodi'r hyn y mae angen i'r Cyngor ei wneud i wella ei wasanaethau. Bob blwyddyn mae SAC yn llunio adroddiad sy'n edrych ar y cynnydd y mae'r Cyngor wedi'i wneud.

Mae SAC am glywed eich barn ar y gwasanaethau y mae'r Cyngor yn eu darparu yn eich ardal a chewch gyfle i roi sylwadau yn y dyfodol.

Mae copi o'r adroddiad llawn, crynodeb o'i ganfyddiadau a'r Asesiad Corfforaethol o'r Cyngor hwn ar gael ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru.

Nodiadau i Olygyddion:

• Paratowyd yr adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru fel sy'n ofynnol gan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn asesu cydymffurfiaeth awdurdodau gwella yng Nghymru (cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub) â gofynion gwella Rhan 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
• Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o tua £20 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
• Ei nod yw hyrwyddo gwelliannau, fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da drwy'r sector cyhoeddus yng Nghymru.