Datganiadau i'r wasg

Cyrff arolygu, archwilio a rheoleiddio yn llofnodi cytundeb i hyrwyddo cydweithio

21/03/2011

Heddiw bydd y pedwar prif gorff arolygu, archwilio a rheoleiddio yng Nghymru yn llofnodi cytundeb strategol i hyrwyddo cydweithio.

Bydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), Estyn, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) a Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) hefyd yn cyhoeddi papur ar y cyd ar arolygu, archwilio a rheoleiddio.

Mae'r papur, Datblygu ein Gwaith gyda'n Gilydd mewn Hinsawdd o Newid, yn amlinellu sut y mae'r pedwar sefydliad yn gwneud cynnydd ac yn symud ymlaen gyda'i gilydd i gyflawni gwelliannau. Mae'r papur yn cydnabod cryfderau a buddiannau cydweithredu hyd yma ac mae'n nodi rhai datblygiadau diweddar. Mae'r datblygiadau hyn yn cynnwys penodi staff prosiect ar y cyd i gefnogi'r broses o ddatblygu cydweithio rhwng y pedwar sefydliad, ac atgyfnerthu prosesau rhannu gwybodaeth a rhannu data.

Mae'r cytundeb strategol yn dangos ymrwymiad y cyrff arolygu, archwilio a rheoleiddio i ddatblygu'r trefniadau cydweithio sydd eisoes ar waith ymhellach a chydweithredu'n fwy effeithiol ac effeithlon yn y dyfodol.

Mae'r cytundeb yn rhan o fframwaith o weithgareddau cydweithio sy'n cael ei ddatblygu gan y pedwar sefydliad. Nodau'r gwaith hwn yw cefnogi gwell cydgysylltu o ran gweithgarwch adolygu allanol a datblygu ymhellach y trefniadau presennol ar gyfer rhannu gwybodaeth gyda'i gilydd.

Mae cyrff arolygu, archwilio ac adolygu yn rhoi gwybodaeth i bobl Cymru am ansawdd ac effeithlonrwydd gwasanaethau cyhoeddus, megis ysgolion, ysbytai a gwasanaethau cymdeithasol.

Dywedodd llefarydd ar ran y pedwar sefydliad:
"Drwy gydweithio rydym eisoes wedi gweld buddiannau sylweddol. Rydym am ddefnyddio'r cytundeb strategol i ddatblygu ar sail ein trefniadau cydweithredu presennol. Yn y pen draw, rydym am wella'r ffordd rydym yn gweithio gyda'n gilydd a sicrhau bod pobl Cymru yn cael gwell canlyniadau o ran gwasanaethau."

Cliciwch yma i ddarllen y papur Datblygu ein Gwaith gyda'n Gilydd mewn Hinsawdd o Newid a chliciwch yma i ddarllen y Cytundeb Strategol.

Nodiadau i Olygyddion

Ynghylch AGGCC
Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn annog y gwaith o wella gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymdeithasol drwy reoleiddio, arolygu, adolygu a rhoi cyngor proffesiynol i Weinidogion a llunwyr polisi. Cyflawnwn ein swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru, ac er ein bod yn rhan o Gyfarwyddiaeth Cyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae nifer o fesurau diogelwch ar waith i sicrhau ein hannibyniaeth weithredol. Nod ein Gweledigaeth a'n Gwerthoedd yw sicrhau bod profiadau defnyddwyr gwasanaethau wrth wraidd ein gwaith. Ein dyletswydd yw rhoi sicrwydd i ddinasyddion Cymru o ran ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal cymdeithasol drwy ein harolygiadau.  Y sawl sy'n comisiynu ac yn darparu gwasanaethau o fewn gofynion y ddeddfwriaeth a pholisïau'r llywodraeth sy'n gyfrifol am wella'r gwasanaethau hynny. Mae arolygiadau AGGCC yn rhoi atebolrwydd i'r cyhoedd a dysgu i randdeiliaid drwy enghreifftiau a gwella gwasanaethau yn barhaus. Am ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan www.cymru.gov.uk/cssiw
Ynghylch Estyn
Estyn yw Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru. Ein nod yw sicrhau rhagoriaeth i bawb ym maes dysgu yng Nghymru. Gwnawn hyn drwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chynghori annibynnol o ansawdd uchel. Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod drwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru. Rydym yn annibynnol ar Lywodraeth Cynulliad Cymru ond cawn ein hariannu ganddi (o dan Adran 104 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).
Am ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan www.estyn.gov.uk
Ynghylch AGIC
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yw'r corff annibynnol sy'n gyfrifol am arolygu a rheoleiddio gofal iechyd yng Nghymru. Prif ffocws AGIC yw:
• Gwneud cyfraniad sylweddol at y gwaith o wella diogelwch ac ansawdd gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.
• Gwella profiad dinasyddion o ofal iechyd yng Nghymru boed hynny fel claf, defnyddiwr gwasanaeth, gofalwr, perthynas neu gyflogai.
• Atgyfnerthu llais cleifion a'r cyhoedd o ran y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd eu hadolygu.
• Sicrhau bod gwybodaeth amserol, defnyddiol, hygyrch a pherthnasol am ddiogelwch ac ansawdd gofal iechyd yng Nghymru ar gael i bawb
• Am ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan http://www.hiw.org.uk/w-home.cfm?orgid=477
Ynghylch Swyddfa Archwilio Cymru
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o tua £20 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
• Ei nod yw hyrwyddo gwelliannau, fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
• Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan www.wao.gov.uk