29/11/2011
Mae Cymru'n defnyddio grantiau yn fwy na gweddill y DU. Mae llawer o gynlluniau grant yn orgymhleth ac anaml iawn y mae arianwyr a derbynwyr yn dysgu gwersi o broblemau gyda chynlluniau yn y gorffennol, yn ôl adroddiad a gyhoeddir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw.
Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gwario dros £2 biliwn bob blwyddyn drwy grantiau penodol, ond mae angen i arianwyr a derbynwyr ddysgu gwersi o fethiannau blaenorol wrth lunio a gweithredu cynlluniau grant.
Ymhlith y gwendidau a nodir yn yr adroddiad mae methiannau ar ran arianwyr i ystyried hyfywedd, gallu ac adnoddau'r rhai sy'n derbyn grantiau, ynghyd â diffyg eglurder ynghylch canlyniadau disgwyliedig prosiectau. Yn aml, nid yw arianwyr na derbynwyr yn cymryd camau i liniaru risgiau neu fonitro cynnydd prosiectau'n effeithiol ar ôl i'r grantiau gael eu dyfarnu.
Mae llawer o gynlluniau yn gymhleth a gellir eu symleiddio'n hawdd, tra bod amrywiaeth sylweddol ymhlith derbynwyr o ran ansawdd eu trefniadau i reoli prosiectau a ariennir drwy grantiau yn lleol.
Fodd bynnag, ceir tystiolaeth o newid cadarnhaol. Yn ôl yr adroddiad mae rhai arianwyr a derbynwyr yn dechrau gwella eu trefniadau rheoli er mwyn cael gwell gwerth am arian. Mae gan brosiect Rheoli Grantiau Llywodraeth Cymru y potensial i dorri costau a gwneud y broses grantiau yn fwy effeithlon hefyd. Mae rhai awdurdodau lleol wedi gwella eu trefniadau rheoli grantiau, ond nid yw eraill yn dilyn eu hesiampl.
Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru ac arianwyr grantiau eraill, gan gynnwys:
• Sicrhau y caiff y risgiau sy'n gysylltiedig â hyfywedd, gallu ac adnoddau derbynwyr grantiau eu hasesu'n briodol cyn dyfarnu arian grant.
• Diffinio canlyniadau prosiectau a'r safonau a ddisgwylir o ran rheoli prosiectau a rheoli arian yn glir, a sicrhau bod y derbynwyr yn cytuno â'r rhain yn ysgrifenedig cyn y caiff unrhyw arian ei ryddhau.
• Ystyried rhinweddau ffyrdd eraill (megis benthyciadau, buddsoddi a chaffael cystadleuol) o gyflawni'r canlyniadau a ddymunir ar wahân i arian grant, cyn ymrwymo i greu cynlluniau grant newydd.
• Cymryd camau cadarn mewn achosion o ordalu neu gamddefnyddio grantiau. Os parheir i ariannu cynllun, dylid cryfhau'r gofynion ar gyfer derbynwyr a threfniadau monitro cyn rhyddhau mwy o arian.
Dywedodd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw:
"Caiff llawer o grantiau eu rheoli'n wael, ac mae'n amlwg nad yw arianwyr a derbynwyr yn dysgu o gamgymeriadau yn y gorffennol, gan gynnwys peidio ag ystyried dulliau gweithredu eraill. Fodd bynnag, mae tystiolaeth i ddangos bod y rhai sy'n rhan o'r broses grantiau am wella systemau a phrosesau ac mae Swyddfa Archwilio Cymru mewn sefyllfa dda i barhau i'w helpu i wneud hynny".
Nodiadau i Olygyddion
• Yr Archwilydd Cyffredinol a'r archwilwyr a benodir ganddo mewn llywodraeth leol yw archwilwyr allanol statudol annibynnol y rhan fwyaf o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
• Maent yn gyfrifol am gynnal archwiliadau blynyddol o'r rhan fwyaf o'r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £14 biliwn a ddyfernir i Gymru'n flynyddol gan Senedd San Steffan. Mae Llywodraeth Cymru'n trosglwyddo elfennau o'r arian hwn i'r GIG yng Nghymru (dros £5 biliwn) ac i lywodraeth leol (bron £4 biliwn).
• Ei nod yw hyrwyddo gwelliannau, fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
• Mae'n anodd gwybod yn union faint o grantiau a roddir i gyrff cyhoeddus Cymru neu a ddyfernir ganddynt, ond mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru wedi nodi tua 500 o gynlluniau grant gwahanol, sydd werth dros £2 biliwn y flwyddyn i gyd. Yn aml, mae'r cynlluniau hyn yn ariannu prosiectau hanfodol ym maes ysgolion, trafnidiaeth, gwasanaethau cymdeithasol, tai ac adfywio, ynghyd ag amrywiaeth eang o weithgareddau cymunedol a gynhelir gan y sector gwirfoddol.
• Cynhaliodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ymgynghoriad ym mis Ionawr 2011 ar ei strategaeth newydd ar drefniadau'r gwasanaeth archwilio allanol i ardystio gwariant a ariennir drwy grantiau. Mae gwybodaeth am Strategaeth Grantiau'r Archwilydd Cyffredinol ar gael ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru yma
• Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi adroddiad gwerth am arian ar wahân ar rownd bresennol Arian Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd ar ddechrau 2012.
Diwedd