The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Newyddion > Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Datganiadau i'r wasg
Symleiddio'r Broses
19/08/2005
Archwilydd Cyffredinol yn argymell newidiadau i gynlluniau adfywio yng Nghymru 
Mae adfywio yng Nghymru yn cael ei lyffetheirio gan ymagwedd or-gymhleth, gofynion ‘beichus’ a osodir ar gynghorau a dulliau ariannu diddychymyg, yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman. Dywed yr adroddiad bod pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn gweithredu’n frwd ym maes adfywio, ond bod angen mwy o gydlyniant, mwy o eglurdeb a gwell mynediad at adnoddau. 

Yn ôl yr adroddiad cenedlaethol, mae llawer o gynghorau’n cael anhawster i fabwysiadu ymagwedd bartneriaeth tuag at y gwaith adfywio. Mae’r ymagwedd bresennol yn ddyrys ac afrosgo, â gormod  o drefnu partneriaethau a llif a goruchwyliaeth ariannu’n tarddu o fentrau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Nid oes monitro deilliannau - gan wneud gwerthuso mentrau blaenorol yn amhosibl; fel arfer, ariannu byrdymor a ddynodir, sy’n rhwystro cynllunio hirdymor.

Mae hanes unigryw Cymru wedi creu amryw o ardaloedd sydd ag angen adfywio. Y genedl ddiwydiannol gyntaf yn y byd, profodd dwf aruthrol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a dirywiad difrifol yn y ganrif ganlynol. Tai fforddiadwy, isadeiladwaith trafnidiaeth a dyfodol cymunedau gwledig - rhai yn unig o’r pynciau adfywio sy’n wynebu Cymru heddiw.

Gyda chynghorau yn chwarae rhan yn y gwaith o uwchraddio fframwaith cymdeithasol, corfforol ac economaidd Cymru, mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer gwelliant, gan gynnwys:

  • Dylid mynnu partneriaethau lleol i ddatblygu strategaethau eglur dros ddeng mlynedd fel rhan o’u strategaethau cymuned.

  • Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru arddangos mwy o eglurdeb a chydlyniant wrth osod y blaenoriaethau cenedlaethol a rhanbarthol, a fydd yn darparu fframwaith ar gyfer adfywio lleol.

  • Dylid symleiddio’r systemau ariannu a monitro cymhleth a’u gwneud yn fwy hirdymor.

Sylwodd yr Archwilydd Cyffredinol, Jeremy Colman:

“Y casgliad mwyaf amlwg a ddaw allan o’r astudiaeth hon o weithgaredd adfywio gan gynghorau yng Nghymru yw bod yn rhaid symleiddio’r ymagwedd. Mae’r Cynghorau’n arwain partneriaethau sydd ag ymroddiad dilys i atal dirywiad a thrawsnewid ansawdd bywyd mewn cymunedau Cymreig, ac mae’r Cynulliad yn ategu a chefnogi’r ymrwymiad hwn; ond mae angen dybryd am fframweithiau symlach, wedi’u cydlunu’n fwy, ar lefel cenedlaethol a lleol.”

Nodiadau ar gyfer Golygyddion:

  • Mae’r Astudiaeth Gwella Adfywio’n dadansoddi’r broses adfywio yng Nghymru, i ganfod a yw’n effeithiol, yn effeithlon ac yn gynaliadwy, er mwyn cynnig cyfarwyddyd i awdurdodol lleol a Llywodraeth Cynulliad Cymru a chyrff cyhoeddus eraill ar sut i reoli  monitro’r broses adfywio ar lefelau cenedlaethol a lleol levels.

  • Fel rhan o’r astudiaeth cynhaliwyd cyfarfodydd gyda phob un o’r 22 cynghor, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru ac asiantaethau allweddol eraill mewn adfywio yng Nghymru. Dadansoddwyd ystod helaeth o ddogfennau cenedlaethol a lleol, cynhaliwyd trafodaethau gyda grwpiau ffocws, cynghorwyr, partneriaid swyddfa ac adolygwyd amryw o brosiectau adfywio.

  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) yn annibynnol o’r llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio’n flynyddol o gwmpas £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.

  • Ffurfiwyd y WAO ar 1 Ebrill 2005 yn dilyn pasio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), a ehangodd gyfrifoldebau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a hyrwyddodd trosglwyddo staff y Comisiwn Archwilio yng Nghymru a Swyddfa Archwilio Genedlaethol Cymru i’w oruchwyliaeth ef.


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Harris (Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau) ar 02920 262 675.

Mae copïau llawn o’r adroddiad i’w cael ar wefan y WAO www.wao.gov.uk

<< Previous article Next article >>