The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Newyddion > Archif newyddion
Archif newyddion
Ffioedd Archwilio ac Arolygu Llywodraeth Leol 2007-08
20/11/2007
Crynodeb o'r ymatebion i ymgynghoriad yr Archwilydd Cyffredinol
Creodd yr ymgynghoriad ymatebion gan gynghorau lleol a chyrff unigol yng Nghymru.

Roedd y gohebwyr yn parhau i groesawu bod yr Archwilydd Cyffredinol yn mabwysiadu targedau'r Cynulliad ar gyfer arbedion effeithlonrwydd yn wirfoddol, a'r rôl adeiladol a chwaraeir gan archwilio ac arolygu wrth hyrwyddo gwelliant. Gwerthfawrogwyd yn gyffredinol iddo gyfyngu'r cynnydd yn y raddfa ffioedd unwaith eto islaw lefelau'r farchnad, a bod y cynnydd eleni o 2.7% dros hanner canran yn is na'r cynnydd y llynedd.

Nododd yr ymatebwyr bod yr ymgynghoriad cynharach a addawyd ar gynigion i'r raddfa ffioedd wedi'i gyflawni, yn ogystal croesawyd yr adolygiad bwriadedig o drefniadau ffioedd ardystio grantiau. Roedd galw parhaus am gyfyngiad o hyd ar gytuno ffioedd yn lleol ac y dylid adlewyrchu gwelliannau mewn perfformiad yn y lefelau ffioedd yn gyffredinol.

Mae'r Archwilydd Cyffredinol bellach wedi cadarnhau ei gynnig fel y'i ceir mae yn y papur ymgynghori. Erys yn ymwybodol iawn o bwysau cost ar gyrff llywodraeth leol, ond hefyd fod rhaid iddo gydbwyso hynny yn erbyn yr angen i osod graddfeydd ffioedd ar lefel a fydd yn cynhyrchu digon o arian i gynnal a rheoleiddio'r farchnad archwilio ac arolygu yn y sector cyhoeddus y mae'n gyfrifol amdani.

Mae'n bwysig nodi bod y raddfa ffioedd yn ddull a ddefnyddir gan yr Archwilydd Cyffredinol i reoleiddio ffioedd a herio'r rheini sy'n ymddangos naill ai'n rhy uchel neu'n rhy isel. Felly, nid yw cynnydd yn y raddfa ffïoedd yn golygu y bydd ffi corff unigol yn codi yn gymesur. Dylid cytuno ar ffïoedd yn lleol a dylent fod yn ddigonol i ariannu'r gwaith angenrheidiol o ystyried y risg a'r amgylchiadau lleol, a'r gofynion statudol a'r gofynion eraill a roddir ar yr Archwilydd Cyffredinol a'i archwilwyr penodedig.

<< Back to previous page