The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Newyddion > Archif newyddion
Archif newyddion
Adeilad Senedd y cynulliad 'wedi'i gyflawni ar amser ac yn unol â'r gyllideb'
12/03/2008
Ail gam y prosiect yn fwy effeithiol na'r cam cyntaf yn ôl  Archwilydd Cyffredinol Cymru

Cyflawnwyd adeilad newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Y Senedd, fwy neu lai ar amser, ac yn unol â'r gost a'r ansawdd disgwyliedig unwaith yr ailddechreuwyd y prosiect yn 2002, yn ôl adroddiad newydd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Canfu'r adroddiad fod Llywodraeth y Cynulliad a thîm y prosiect yn gweithio'n effeithiol, ar y cyfan, a'u bod yn cyflawni'r amcanion a bennwyd. Er y cwblhawyd y Senedd chwe mis yn ddiweddarach nag a gynlluniwyd yn wreiddiol, yn bennaf oherwydd problemau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh), ni chafodd yr oedi hwn unrhyw ganlyniadau negyddol ar weithrediadau'r Cynulliad Cenedlaethol. Cost alldro derfynol y prosiect oedd £70 miliwn, yn erbyn yr amcangyfrif diwygiedig o £66 miliwn.
Adroddiad y Senedd – cliciwch yma
Adysgrif fideo – cliciwch yma 
Datganiad i’r wasg – cliciwch yma
Adroddiadau Blaenorol
Tachwedd 2000:Trefniadau Adeiladau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Tachwedd 2002: Adeilad Newydd y Cynulliad Cenedlaethol: Adroddiad Diweddaru

Cwestiynau ac atebion - gweler isod

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bostio media@wao.gov.uk. Byddwn yn ateb eich ymholiad o fewn un awr.

Pam nad yw’r adroddiad yn cyfeirio at y cyfnod cyn 2002?
Cafwyd adroddiadau ar gam cyntaf y proseict ddwywaith. Ym mis Tachwedd 2000, cafwyd adroddiad gan yr Archwiliwr Cyffredinol ar Drefniadau Lletya ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cafodd hyn ei ddilyn gan adroddiad diweddaru ym mis Tachwedd 2002. Mae’r adroddiad cyfredol hwn yn canolbwyntio ar ail gam y prosiect yn unig.

Pam oedd costau’r prosiect yn fwy na’r gyllideb ac yn hwyr? Pwy dalodd am hyn?
Roedd y prosiect £4 miliwn yn fwy na’r gyllideb, yn bennaf oherwydd amrwyiadau cleient yn ystod y cyfnod adeiladu, felly talwyd y costau hyn gan Lywodraeth y Cynulliad. Roedd y prosiect chwe mis yn hwyr yn bennaf oherwydd cymhlethdodau TGCh. Mae manylion llawn am gostau ychwanegol a’r amserlen i’w gweld ym mharagraffau 1.2 i 1.23 o’r adroddiad.

Pam fu cam cyntaf y prosect cymaint yn wahanol na’r ail gam?
Amlygwyd y prif wahaniaethau yn dilyn ailwerthusiad o’r prosiect ar ôl iddo stopio yn 2001. Canlyniadau hyn oedd:

  • Strwythur rheoli prosiect newydd;
  • Y defnydd o gytundeb pris penodol ar gynllunio ac adeiladu (yn hytrach na chontractio rheoli); a
  • Gweithredu’r gwersi a ddysgwyd o’r cam cyntafGweler paragraff 2.1 am fwy o fanylion.

Beth ddigwyddodd i Bartneriaeth Richard Rogers?
Parhaodd y Bartneriaeth i fod yn rhan o’r prosiect ar ôl iddo ailddechrau yn 2002 fel y pensaer yng nghonsortiwm adeiladu Taylor Woodrow.

Gan ystyried hanes cam cyntaf y prosiect, a berodd presenoldeb Partneriaeth Richard Rogers yn ystod ail gam y prosiect unrhyw broblemau rhyngddynt a Llywodraeth y Cynulliad?
Naddo. Rheolwyd Partneriaeth Richard Rogers gan Taylor Woodrow yn ystod ail gam y prosiect.

Beth ddigwyddodd ynglyn â’r to yn gadael dwr i mewn a’r craciau yn y desgiau a gafodd lawer o sylw cyhoeddus?
These issues have still to be fully resolved. The cost of repair however, is covered under the defects liability period as part of the construction contract and the furniture contract and is therefore paid by the contractor.
Mae’r materion yma eto i’w datrys. Fodd bynnag, ariennir costau gwaith trwsio yn y cyfnod cyfrifoldeb diffygion o dan y cytundeb adeiladau a’r cytundeb dodrefn, ac yna ei dalu gan y contractwr.

Pam gostiodd yr adeilad dros £70 miliwn gan ystyried mai ond £12 miliwn oedd cyllideb gwreiddiol y prosiect?
Yn wreiddiol, amcangyfrifwyd y prisiau ar gyfer costau’r adeilad cyn i unrhyw gynllunio manwl gael ei wneud.

Pam fu adeilad seneddol yr Alban cymaint yn ddrutach mewn cymhariaeth ag adeilad y Senedd?
Roedd yna ddau brif reswm dros hyn:

  1. Mae natur Senedd yr Alban yn wahanol i natur y Senedd. Y siambr ddadlau a’r ystafell pwyllgora yw prif gynnwys y Senedd, tra bod Senedd yr Alban hefyd yn cynnwys swyddfeydd. 
  2. Caffaelwyd yr adeiladau gan gontractwyr gwahanol. Yn ystod ail gam y prosiect, caffaelwyd y Senedd gan drwy ddefnydd contract cynllunio ac adeiladu pris penodol. Caffaelwyd adeilad Senedd yr Alban gan ddefnyddio dull rheoli adeiladu a oedd yn blaenoriaethu’r amserlen ar draul sicrhau costau.

Pam fu cyn lleied o ddiddordeb gan y farchnad i adeiladu’r Senedd?
Serch nad oes ateb penodol, mae’n debygol yr oedd y sector preifat yn ofalus am gymryd y risgiau oedd ynghlwm â phrosiect o’r fath, gan ystyried ei hanes yn ystod y cam cyntaf a’r problemau ynglyn ag adeiladau adeilad Senedd yr Alban.
Fe dynnodd dau fidiwr allan o’r prosiect oherwydd natur y cytundeb a osododd y risgiau i gyd ar y contractwr.
 
Beth oedd y gost o wneud yr adeilad mor gynaliadwy?
Dyw hi ddim wedi bod yn bosib i roi ffigwr penodol ar y gost o wneud yr adeilad mor gynaliadwy a chyrraedd safon ‘ardderchog’ BREEAM. Fodd bynnag, lle’n bosib, fe ddefnyddiodd tîm y prosiect costio bywyd llawn. Mae hyn yn ddull systematig sy’n cydbwyso elw gyda chostau refeniw i gyrraedd datrysiad optimwm dros gyfnod bywyd adeilad.

Pryd y bydd y Pwyllgor Archwilio yn cyfarfod i gymryd tystiolaeth ar ganfyddiadau’r adroddiad?
Nid oes dyddiad penodol wedi’i awgrymu, ond mae’r Pwyllgor Archwilio yn debygol o gymryd tystiolaeth ar yr adroddiad yn ystod tymor haf y Cynulliad Cenedlaethol.

A wastraffwyd y £7.5 miliwn a wariwyd yn ystod cam cyntaf y prosiect?
Naddo. Gwariwyd hanner y swm hwn ar gynllun yr adeilad, gyda chyfran sylweddol arall ar yr adeiladau cychwynnol (ee gosod pyst).

Ydy Aelodau’r Cynulliad yn hoff o’r Senedd?
Ni siaradom gyda holl Aelodau’r Cynulliad, ond roedd y rhai y gwnaethom siarad â nhw yn hoff o’r adeilad.

Pa waith y gwnaethoch chi i ddod i’ch casgliadau?
Gweler Atodiad 7 yr adroddiad.

Pam cafodd cynllun Merlin ei ohirio?
Deliwyd â’r mater o fewn adroddiad yr Archwiliwr Cyffredinol yn 2006 ar gaffaeliad cytundeb Merlin

Pam deimlodd y Cynulliad cenedlaethol yr angen i adeiladu adeilad newydd? Pam na ddefnyddiwyd adeilad a oedd eisoes yn bodoli?
Deliwyd â’r mater o fewn adroddiad cyntaf yr Archwiliwr Cyffredinol ar adeilad y Cynulliad (Tachwedd 2000)

Beth oedd y rheswm y tu ôl i derfynu cyflogi Partneriaeth Richard Rogers yn ystod cam cyntaf y prosiect? A pham stopiwyd y prosiect?
Deliwyd â’r mater o fewn ail adroddiad yr Archwiliwr Cyffredinol ar adeilad y Senedd (Tachwedd 2002)

A fydd yr Archwiliwr Cyffredinol yn adrodd ar strategaeth adleoli’r Llywodraeth?
Ni does penderfyniad wedi’i wneud. Bydd yr Archwiliwr Cyffredinol yn adrodd pan fydd yn credo bod angen gwneud, ac os ddaw’r angen.

A oes modd cymharu costau’r Senedd gyda phrosiectau adeiladu eraill yn y sector cyhoeddus?
Nid yw meincnodi yn broses gwbl syml oherwydd y gwahaniaethau o ran defnydd a’r ffaith bod y ddau adeilad wedi’u cynllunio i fod yn unigryw ac yn eiconig. Gweler paragrgaffau 1.24 i 1.26 a Ffigwr 6 yr Adroddiad.

Pwy sy’n berchen ar y Senedd?
Comisiwn y Cynulliad sy’n berchen ar y Senedd.

A all y Senedd ymdopi gyda chynnydd yn nifer Aelodau’r Cynulliad fel a amlinellwyd yn adroddiad Comisiwn Richard?
Gall – Cynlluniwyd y Senedd i ddelio â chynydd yn niferoedd Aelodau’r Cynulliad.

Faint mae’r adeilad yn ei gostio i redeg?
Mae Comisiwn y Cynulliad yn dal i fod yn y broses o sefydlu llinell gefn er mwyn i gostau rhedeg ar gyfer y Senedd gael eu sefydlu.

Pam na ddewiswyd dull caffael cynllunio pris ac adeiladau penodol o gychwyn cyntaf y prosiect?
Amser oedd prif flaenoriaeth y prosiect ar y dechrau. Fodd bynnag, pan ailddechreuwyd y prosiect yn 2002, sicrhau’r costau oedd y brif flaenoriaeth.

<< Back to previous page