The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Newyddion > Archif newyddion
Archif newyddion
Mae ar y sector cyhoeddus angen ‘ymagwedd graffach at fflydoedd cerbydau’
16/10/2008
Swyddfa Archwilio Cymru yn cyhoeddi papur briffio arfer da i hyrwyddo gwelliant
Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi papur briffio sy'n archwilio pa mor dda mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn rheoli ei fflyd gerbydau. Mae’r papur yn nodi lle gellir gwneud gwelliannau ac, yn bwysicaf oll, yn amlygu enghreifftiau o arfer da i sefydliadau ddysgu ohonynt.

Mae'r papur briffio yn dwyn ynghyd ganlyniadau o adolygiadau o'r trefniadau Rheoli Fflyd mewn 50 o gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae hefyd yn dilyn lansiad canllaw Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru ar Reoli Fflyd - a lansiwyd ar ei gwefan ym mis Gorffennaf.

PDF icon Cliciwch yma i weld y Brîff ar Reoli Fflyd

Press iconCliciwch yma i weld y datganiad i'r wasg

Event icon Mae Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn cynnal Cynhadledd Rheoli Fflyd ar 25 Tachwedd

<< Back to previous page