The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Newyddion > Archif newyddion
Archif newyddion

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n cyflawni agenda ehangach
13/11/2008
Ond mae angen feddwl yn yr hirdymor am y ffordd y mae'n rhedeg ei fusnes, meddai'r Archwilydd Cyffredinol
 PDF icon Gweithrediadau Comisiwn Coedwigaeth Cymru - cliciwch yma i lawrlwytho’r adroddiad
 

Cliciwch yma i weld y datganiad i’r wasg

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru (FCW) wedi cyrraedd ei dargedau ariannol a’r mwyafrif o’i dargedau perfformiad. Ond mae’n rhaid iddo, fodd bynnag, fod yn glir am ei flaenoriaethau ac ystyried ei ymagwedd at y ffordd y mae'n rhedeg ei fusnes - yn enwedig o ran datblygu cynlluniau ariannol hirdymor ac ymagwedd fwy cydlynedig at gaffael. Darganfu adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, fod y Comisiwn ar y cyfan yn cyflawni agenda coedwigaeth sy’n ehangu, ac yn gweithio’n effeithiol gyda phartneriaid i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad i goedwigaeth. Ond, mae angen iddo fynd i’r afael â nifer arwyddocaol o heriau gan gynnwys yr angen i ddatblygu cyfeiriad corfforaethol fwy clir.

<< Back to previous page