2009

Dysgu gwersi o arolygiadau o gymdeithasau tai

Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyflwyno adroddiad ar berfformiad cymdeithasau tai yng Nghymru ac yn amlygu'r gwendidau yn y system bresennol o reoleiddio ac arolygu

02/03/2009

 PDF icon Adroddiad - cliciwch yma i lawrlwytho'r adroddiad  - Y Gwersi o Arolygiadau - Arolygiadau o Gymdeithasau Tai 2005-2008
  Cliciwch yma i weld y datganiad i'r wasg
 

Cysylltiadau
Adroddiadau arolygu cymdeithasau tai

Mae cyfres o arolygiadau yng nghymdeithasau tai mwyaf Cymru wedi datgleu gwersi a allai fod yn ddefnyddiol i Lywodraeth y Cynulliad wrth iddi lunio system reoleiddio newydd. Mae'r arolygiadau hefyd wedi nodi materion, gwersi ac arfer da cyffredin a ddylai helpu cymdeithasau tai i wella'r gwasanaethau y maent yn eu darparu i breswylwyr.

Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi cyhoeddi ei adroddiad Y Gwersi o Arolygiadau - Arolygiadau o Gymdeithasau Tai 2005-2008, sy'n dod â chanfyddiadau adolygiadau o 29 o gymdeithasau tai yng Nghymru ynghyd yn erbyn meini prawf allweddol, fel cydberthnasau â phreswylwyr, cyfle cyfartal, gosodiadau a gwaith cynnal a chadw. Mae hefyd yn nodi'r gwendidau yn y system bresennol o reoleiddio ac arolygu tai sydd bellach yn cael ei hailgynllunio yn dilyn adolygiad Sue Essex o Dai Fforddiadwy yng Nghymru.

Cliciwch yma am y datganiad i'r wasg cyflawn

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>