2009

Yr Archwilydd Cyffredinol i gyhoeddi adroddiad ar Gyngor Ynys Môn

Mae'r Archwilydd Cyffredinol, Jeremy Colman, yn bwriadu cyhoeddi adroddiad ar y ffordd y caiff Cyngor Sir Ynys Môn ei redeg

23/03/2009

 

Dolenni defnyddiol

 PDF icon

Llythyr Blynyddol 2007-08  Cyngor Sir Ynys Môn

Cyhoeddiadau Cyngor Sir Ynys Môn

Gwefan Cyngor Sir Ynys Môn

Bwriedir cyhoeddi arolwg yr Archwilydd Cyffredinol i'r trefniadau llywodraethu corfforaethol yn yr awdurdod ym mis Mehefin.

Mae'r tîm arolygu o Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyflawni eu gwaith maes ac ar hyn o bryd yn adolygu'r dystiolaeth a gafodd ei grynhoi o'r casgliad.

Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn flaenorol wedi gwahodd aelodau o'r cyhoedd i gysylltu er mwyn rhannu eu sylwadau ar sut y caiff Cyngor Sir Ynys Mon ei redeg. Roedd gan Jeremy Colman ddiddordeb i glywed barn pobl ar faterion fel y ffordd y mae'r Cyngor yn gwneud penderfyniadau, sut y mae'n gweithredu'r penderfyniadau hynny a sut y mae'r Cyngor yn ymdrin â chwynion. Caiff yr holl sylwadau hyn eu defnyddio i helpu i lywio arolygiad yr Archwilydd Cyffredinol.

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>