Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn falch o groesawu Gillian Body i rôl dros dro Archwilydd Cyffredinol Cymru.
10/02/2010
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn ddiweddar gan y Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn destun i gymeradwyaeth terfynol gan y Frenhines.
Mae gan Gillian Body hanes cryf ym maes archwilio, gyda 28 mlynedd o brofiad yn y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a Swyddfa Archwilio Cymru. Cyn hynny bu'n Gynorthwy-ydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, ac am y bum mlynedd diwethaf, mae wedi bod mewn swyddi uwch reoli o fewn Swyddfa Archwilio Cymru.
Bydd Gillian yn cyflawni rôl yr Archwilydd Cyffredinol tra bod y broses i benodi olynydd parhaol ar waith. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi nodi y bydd penodi Archwilydd Cyffredinol parhaol yn debygol o gymryd sawl mis.