Yr Archwilydd Cyffredinol yn lansio canllaw arfer da ar-lein
10/06/2010
|
|
Cliciwch yma i weld y datganiad i'r wasg Cysylltiadau |
Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi lansio canllaw ar-lein i helpu cyrff cyhoeddus a'u harchwilwyr allanol i wella'r modd y rheolir arian yn y sector cyhoeddus. Mae 850 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru, sy'n gwario dros £20 biliwn o arian cyhoeddus y flwyddyn. Nod y canllaw newydd yw eu helpu i gyflwyno adroddiadau ar ganlyniadau ariannol cyn gynted â phosibl yn ystod y flwyddyn, ac ar ôl diwedd y flwyddyn, i wella eu hamseroldeb, rhoi gwybodaeth well i bartïon â diddordeb, a galluogi adrannau yn eu sefydliadau i reoli eu hadnoddau'n well.
Yn hytrach na gofyn i sefydliadau a'u harchwilwyr i wneud yr un pethau yn gyflymach, mae'r canllaw newydd yn annog sefydliadau a'u harchwilwyr i adolygu eu trefniadau cyffredinol ar gyfer cyfrifyddu a chyflwyno adroddiadau a nodi ffyrdd newydd o weithio i gyflwyno adroddiadau yn gynt. Ymhlith y manteision sy'n dod o wella'r gwaith o gyflwyno adroddiadau ariannol mae rheoli adnoddau yn well, nodi a chywiro gwendidau yn y system ariannol a helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni terfynau amser tynnach ar gyfer cyflwyno adroddiadau ariannol.
Gellir darllen y canllaw hwn o dan adran Arfer Da gwefan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'r canllaw yn cynnwys tudalennau rhyngweithiol gyda gwybodaeth i egluro beth yw cyflwyno adroddiadau ariannol mewn modd amserol, cyngor ar sut y gall sefydliadau roi newidiadau ar waith i wella eu prosesau cyflwyno adroddiadau ariannol, beth yw manteision gwneud hyn, pwy ddylai fod yn rhan o'r gwaith a geirfa sy'n egluro'r termau allweddol.