20/07/2010
| |
Adroddiad - cliciwch yma i lawrlwytho'r adroddiad - Cynnal gwerth am arian yng ngwasanaeth yr heddlu |
| |
Cliciwch yma i weld y datganiad i'r wasg |
Yn ôl y tri chorff gwarchod cenedlaethol, y Comisiwn Archwilio, Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi a Swyddfa Archwilio Cymru, gallai'r heddlu yng Nghymru a Lloegr arbed hyd at £1 biliwn (12% o'r arian a geir gan lywodraeth ganolog) heb leihau nifer yr heddlu sydd ar gael. Mewn dau adroddiad maent yn amlinellu lle y gellir gwneud arbedion, yr effaith ar yr heddlu a'r cyhoedd ac effaith debygol unrhyw doriadau pellach.
Mae adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi, 'Valuing the Police', yn dangos mai ond 11% o'r heddlu sydd ar gael i'r cyhoedd ar y stryd, er gwaethaf cynnydd o flwyddyn i flwyddyn mewn cyllidebau dros y 40 mlynedd diwethaf. Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn rhybuddio y caiff nifer yr heddlu sydd ar gael i'r cyhoedd ei leihau ymhellach yn sgîl y toriadau mewn cyllidebau sydd ar y gweill, oni chaiff yr heddlu ei ailgynllunio'n llwyr.
Yn yr adroddiad ar y cyd - 'Sustaining value for money in the police service' - mae'r tri sefydliad yn dangos lle y gellir arbed arian: chwalu seilos gan annog heddluoedd i gydweithio a phroses fwy effeithlon o sicrhau bod nifer yr heddlu sydd ar ddyletswydd yn cyfateb yn well i'r risg o droseddau er mwyn delio â'r amrywiaeth o ran galw.