Bydd amrywiaeth o adnoddau a holiaduron ar-lein a gyhoeddir heddiw yn helpu gwasanaethau'r heddlu i wella gwerth am arian
07/09/2010
Lluniwyd y pecyn o ddeunyddiau hunanasesu gwirfoddol gan y Comisiwn Archwilio a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'n ategu adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf ar y cyd ag Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi, sef 'Cynnal gwerth am arian yng ngwasanaeth yr heddlu'.
Mae'r adnoddau, sydd ar gyfer cwnstabliaethau (heddluoedd) ac aelodau awdurdodau'r heddlu - mae Cymdeithas Awdurdodau'r Heddlu hefyd wedi cyfrannu i hyn - yn helpu gweithwyr proffesiynol i wneud arbedion heb i hynny gael effaith andwyol ar ddiogelwch y cyhoedd.