Heddiw mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr sy'n ystyried pa mor dda y mae'r Cyngor yn gwella ei wasanaethau.
20/01/2011
Nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru rai negeseuon pwysig ynglyn â sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu gwella ei wasanaethau yn ei adroddiad gwella blynyddol 2009/10. Adroddiad newydd yw hwn, yn dilyn deddfwriaeth newydd ym mis Ebrill 2010, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i gynghorau wneud trefniadau i wella eu gwasanaethau a'u dulliau gweithio. Bu'r flwyddyn gyntaf yn gyfnod o addasu, ac mae'r adroddiad hwn yn fan cychwyn i'r Archwilydd Cyffredinol wneud asesiadau llawer mwy cynhwysfawr ynglyn â sut mae cynghorau yn perfformio yn y dyfodol.
Prif neges yr adroddiad yw bod y Cyngor yn gwella mewn nifer o feysydd. Mae gan y Cyngor gryfderau penodol o ran sut mae ei arweinwyr gwleidyddol a rheoli wedi cydweithio i fynd i'r afael â rhai materion sydd wedi bodoli ers tro, y ffordd mae'n cynllunio'i wasanaethau, y ffordd mae'n gweithio gyda sefydliadau eraill a'r ffordd mae'n rheoli ei arian. Er bod cynnydd yn cael ei wneud, mae angen datblygu rhagor ar rai meysydd er mwyn sicrhau gwelliant yn y dyfodol; yn cynnwys datblygu dull cynllunio busnes cadarn a gwella trefniadau ar gyfer rheoli perfformiad a chynllunio'r gweithlu yn y dyfodol.
Bydd gofyn i'r Cyngor wneud penderfyniadau anodd ac amserol ar y defnydd o adnoddau er mwyn ymateb i'r toriadau gwariant arfaethedig. Er na ddylid diystyru'r heriau hyn, mae hanes o reoli ariannol doeth ynghyd â'r gwelliannau sydd eisoes wedi'u gwneud yn golygu bod y Cyngor mewn gwell sefyllfa i ymateb i'r heriau a sicrhau gwelliant yn y dyfodol.
Cyhoeddodd y Cyngor ei amcanion gwella yn ei Gynllun Corfforaethol ym mis Awst 2010 ac mae'r hyn y mae am ei gyflawni ac, i raddau helaeth sut bydd yn mesur ei lwyddiant, yn eglur. Mae'n llwyddo i gynnwys pobl leol wrth gynllunio gwasanaethau ac mae'n adrodd yn gywir am ei berfformiad.
Yn y gorffennol mae'r Cyngor wedi darparu gwasanaeth gofal preswyl eang i bobl hyn ond mae wedi cydnabod bod angen iddo fynd i'r afael â'r mater mewn ffordd wahanol ac mae wedi datblygu amrywiaeth o wasanaethau i helpu pobl i fyw'n annibynnol, gan gynnwys datblygu un o'i safleoedd preswyl i ddarparu cynllun tai gwarchod ychwanegol. Mae'r cynllun hwn a mentrau eraill wedi gwella perfformiad.
Mae gan y Cyngor hanes o gydweithio'n dda gyda'r sector iechyd, gan weithio gyda a thrwy'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol. Dylai ddatblygu'r partneriaethau hyn i gynnig amrywiaeth ehangach o wasanaethau a helpu i leihau'r gost.
Crynodeb o'r Adroddiad Gwella Blynyddol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae'r Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth ag eraill i helpu i greu cyfleoedd gwaith, datblygu sgiliau a sicrhau buddsoddiad mewn atebion hirdymor cynaliadwy. Mae mwy i'w wneud. Er bod canran yr oedolion o oedran gweithio yn y Fwrdeistref sydd heb unrhyw gymwysterau wedi disgyn yn raddol ers 2001, mae'n parhau i fod yn uwch na chyfartaledd Cymru. Disgynnodd canran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn 2009 ond ar raddfa arafach na chyfartaledd Cymru, ac mae canran Pen-y-bont ar Ogwr ymhlith y gwaethaf yng Nghymru bellach. Mae angen gwella hyn.
Yn ddiweddar, cadarnhaodd yr archwilydd a benodwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol fod datganiadau ariannol y Cyngor yn adlewyrchiad cywir a theg o'r trafodion ariannol a bod gan y Cyngor drefniadau priodol ar waith i sicrhau gwerth am arian.