Heddiw mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar Gyngor Sir Penfro sy'n ystyried pa mor dda y mae'r Cyngor yn gwella ei wasanaethau.
26/01/2011
Yn ei adroddiad gwella blynyddol ar gyfer 2009-10 nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru rai negeseuon pwysig ynghylch y ffordd y mae Cyngor Sir Penfro yn bwriadu gwella ei wasanaethau. Yr adroddiad hwn yw'r cyntaf o'i fath, yn dilyn deddfwriaeth newydd ym mis Ebrill 2010, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau wneud trefniadau i wella eu gwasanaethau a'r ffordd maent yn gweithio. Bu'r flwyddyn gyntaf hon yn un o addasu, ac mae'r adroddiad hwn yn fan cychwyn i'r Archwilydd Cyffredinol gynnal asesiadau mwy cyflawn o'r ffordd y mae cynghorau'n perfformio mewn blynyddoedd i ddod.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod gan y Cyngor arweinyddiaeth sefydlog gadarn a diwylliant o welliant parhaus. Mae'r sefydlogrwydd hwn wedi rhoi amser i'r Cyngor benderfynu'n iawn beth y mae am ei wneud i wella pethau a gwneud cynnydd wrth wneud y pethau hynny. Mae'r diwylliant o welliant parhaus wedi'i hen ymsefydlu ac rydym yn hyderus y bydd y Cyngor yn parhau i wella, er gwaethaf yr heriau y mae'n eu hwynebu. Ceir crynodeb o brif gasgliadau eraill yr adroddiad isod.
Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio yn dda ar draws ei adrannau i weld sut orau i gynnal gwella gwasanaethau dros y blynyddoedd nesaf, gan dorri costau ar yr un pryd. Mae'r gyllideb wedi cael ei rheoli'n dda bob amser ac mae gan y Cyngor hanes o ddarparu gwasanaethau o fewn yr adnoddau sydd ar gael. Mae datganiadau cyfrifyddu'r Cyngor yn rhoi darlun cywir a theg o'i drafodion ariannol.
Gan edrych i'r dyfodol, mae'r Cyngor wedi pennu 26 o amcanion gwella ac roedd yn un o'r awdurdodau cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi ei amcanion. Mae'r Cyngor yn gweithio i sicrhau bod ei amcanion yn gliriach ac yn fwy penodol ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
O ran cefnogi pobl mewn angen, gwnaethom ganfod amrywiaeth eang o gryfderau ym mhob rhan o wasanaethau oedolion a gwasanaethau plant y Cyngor, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth a oedd yn gryfder arbennig. Ac mae'r Cyngor yn rhagori ar y rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru o ran gwella ansawdd tai cyngor.
Mae'r Cyngor yn helpu pobl i ddatblygu drwy flaenoriaethu addysg a thrwy wario mwy o arian fesul disgybl na chyfartaledd Cymru.
Yn olaf, mae'r Cyngor yn gweithio'n galed i sicrhau bod Sir Benfro yn lle gwell i fyw. Mae'r Cyngor yn cyflawni targedau gwastraff, mae wedi chwarae rôl weithredol o ran cefnogi economi'r sir ac mae'n gweithio'n dda gyda'r heddlu i gadw pobl yn ddiogel.