2011

Cynnydd mewn costau ac achosion o oedi o ran Prosiectau Trafnidiaeth Mawr

Prosesau gwell i lywio a rheoli prosiectau wedi eu cyflwyno

27/01/2011

Mae llawer o brosiectau trafnidiaeth mawr wedi costio cryn dipyn yn fwy ac wedi cymryd mwy o amser i'w cwblhau na'r disgwyl, gan lesteirio'r broses o gyflawni amcanion trafnidiaeth ehangach Llywodraeth y Cynulliad, dywed adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol a gyhoeddwyd heddiw.

Dengys yr adroddiad fod cost 18 o brosiectau trafnidiaeth mawr a gwblhawyd rhwng diwedd 2004 a dechrau 2010 wedi cynyddu 61 y cant, o amcangyfrifon cynnar gwerth cyfanswm o £366 miliwn i £592 miliwn.

Digwyddodd ychydig yn llai na dwy ran o dair o gyfanswm y cynnydd mewn costau cyn dechrau'r prif waith adeiladu. Er bod rhai prosiectau wedi gweld cynnydd sylweddol mewn costau ac oedi yn ystod y gwaith adeiladu, cyflawnwyd prosiectau eraill yn unol â'r amserlen a'r gost yn ystod y cam adeiladu. Ar y cyfan roedd perfformiad prosiectau unigol yn amrywio'n sylweddol.

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>