2011

Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Heddiw mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy'n ystyried pa mor dda y mae'r Cyngor yn gwella ei wasanaethau

27/01/2011

Nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru rai negeseuon pwysig ynglyn â sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn bwriadu gwella ei wasanaethau yn ei Adroddiad Gwella Blynyddol 2009-10. Adroddiad newydd yw hwn, yn dilyn deddfwriaeth newydd ym mis Ebrill 2010, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i gynghorau wneud trefniadau i wella eu gwasanaethau a'u dulliau gweithio. Bu'r flwyddyn gyntaf yn gyfnod o addasu, ac mae'r adroddiad hwn yn fan cychwyn i'r Archwilydd Cyffredinol wneud asesiadau llawer mwy cynhwysfawr ynglyn â sut mae cynghorau yn perfformio yn y dyfodol.

Prif neges yr adroddiad oedd bod sawl agwedd ar drefniadau corfforaethol y Cyngor bellach yn cefnogi gwelliant. Dyma grynodeb o'r casgliadau allweddol.

Mae'r Cyngor wedi parhau â'r cynnydd a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi datblygu systemau effeithiol i fonitro ei berfformiad ac mae mewn sefyllfa gadarn wrth wynebu cyfnod o doriadau ariannol. Mae cynllunio ariannol y Cyngor wedi datblygu, ac mae'n cydnabod y bydd angen iddo wneud arbedion o hyd at £15.7 miliwn dros dair blynedd. Er ei fod yn wynebu rhai heriau gwirioneddol i wneud yr arbedion, mae wedi dechrau gweithio ar amrywiaeth o opsiynau i'w helpu i lwyddo, gan nodi arbedion gwerth £11.8 miliwn hyd yn hyn.

Mae'r Cyngor yn cynnwys eraill yn ei waith cynllunio ac mae ganddo 10 amcan gwella. Yn ein barn ni, nid yw'r amcanion gwella yn ddigon manwl eto o ran sut byddant yn effeithio ar y gymuned leol, ac nid ydynt yn dangos sut bydd y Cyngor yn penderfynu a yw wedi llwyddo i gyflawni'r amcanion ai peidio. Rydym hefyd o'r farn y dylai'r Cyngor fanteisio ar gyfryngau fel papurau newydd lleol yn ogystal â'i wefan i adfywio diddordeb y cyhoedd yn ei amcanion gwella.

Mae'r Cyngor yn cydnabod bod cydweithio'n agos â'r sector iechyd ac asiantaethau eraill yn allweddol er mwyn gwella'r maes gofal cymdeithasol ymhellach ac mae wedi gwneud cynnydd da o ran cefnogi pobl ag anableddau a helpu pobl hyn i fyw'n annibynnol. Dylai'r Cyngor wneud llai o ddefnydd o lety gwely a brecwast ar gyfer teuluoedd digartref gyda phlant, ac mae rhai pryderon na all pobl agored i niwed sydd â phroblemau iechyd meddwl ddod o hyd i lety.

Mae safonau plant a phobl ifanc yn uwch na'r cyfartaledd yn gyffredinol, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd. Mae lefelau presenoldeb mewn ysgolion cynradd yn uwch na chyfartaledd Cymru yn gyson; mae presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn amrywio mwy, ond mae'n uwch na chyfartaledd Cymru. Mae'r Cyngor wedi gwneud cynnydd da wrth foderneiddio adeiladau ei ysgolion uwchradd ac mae'r gwaith o sicrhau bod ysgolion cynradd yn addas i'r diben yn mynd rhagddo yn unol â'r bwriad.

Mae'r Cyngor wedi rhagori ar darged Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer ailgylchu a chompostio gwastraff ac mae wedi nodi ardaloedd lle mae angen cynyddu cyfranogiad y cyhoedd a chyfraddau ailgylchu. Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau eraill i leihau'r gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. Mae ganddo gynlluniau clir ar gyfer cadw strydoedd a chymdogaethau yn lân, ac mae ei berfformiad yn y cyswllt hwn yn gwella. Gwaethygodd cyflwr y ffyrdd yng Nghonwy ychydig yn 2009-10, ond mae cyfran y ffyrdd sydd mewn cyflwr gwael yn is o lawer na chyfartaledd Cymru.

Gan fod twristiaeth yn gwneud cyfraniad sylweddol at yr economi leol, mae hybu twristiaeth yn un o amcanion gwella'r Cyngor. Mae'r Cyngor yn amcangyfrif bod chwe miliwn o dwristiaid wedi ymweld â'r sir yn 2009-10 ac mae'n cydnabod bod gweithio mewn partneriaeth ag eraill yn allweddol i sicrhau ei fod yn manteisio'n llawn ar holl atyniadau naturiol ac adeiledig y sir.

Mae datganiadau o gyfrifon y Cyngor yn adlewyrchiad cywir a theg o drafodion ariannol y Cyngor.

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>