2011

Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol ar Gyngor Caerdydd

Heddiw mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar Gyngor Caerdydd sy'n ystyried pa mor dda y mae'r Cyngor yn gwella ei wasanaethau.

27/01/2011

Yn ei adroddiad gwella blynyddol ar gyfer 2009-10 nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru rai negeseuon pwysig ynghylch y ffordd y mae Cyngor Caerdydd (y Cyngor) yn bwriadu gwella ei wasanaethau. Yr adroddiad hwn yw'r cyntaf o'i fath, yn dilyn deddfwriaeth newydd ym mis Ebrill 2010, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau wneud trefniadau i wella eu gwasanaethau a'r ffordd maent yn gweithio. Bu'r flwyddyn gyntaf hon yn un o addasu, ac mae'r adroddiad hwn yn fan cychwyn i'r Archwilydd Cyffredinol gynnal asesiadau mwy cyflawn o'r ffordd y mae cynghorau'n perfformio mewn blynyddoedd i ddod.

Prif neges yr adroddiad oedd bod y Cyngor yn parhau gyda rhaglen newid sylweddol a'i fod mewn sefyllfa dda i sicrhau gwelliant. Gwnaethom edrych ar nifer o feysydd gwasanaeth a chanfod bod y Cyngor yn gwella argaeledd rhai o'i wasanaethau ac yn gweithredu cynlluniau ar gyfer gwella rhai eraill. Ceir crynodeb o'r prif gasgliadau isod.

Mae'r Cyngor yn rheoli rhaglen fawr â'r nod o wella'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu a gwneud defnydd gwell o'r adnoddau sydd ar gael iddo.

Mae'r Cyngor wedi gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid allweddol i ddatblygu gweledigaeth gyffredin ar gyfer Caerdydd, cytuno ar gamau gweithredu â blaenoriaeth a chydgysylltu'r modd y gofynnir am safbwyntiau dinasyddion Caerdydd. Mae saith canlyniad strategol wedi'u nodi y maent oll yn bwriadu gweithio tuag atynt. Mae'r Cyngor yn cydnabod bod angen iddo ddatblygu mesurau sy'n caniatáu iddo werthuso canlyniadau gweithgaredd i ddinasyddion yn well.

Mae datganiadau cyfrifyddu'r Cyngor yn rhoi darlun cywir a theg o drafodion ariannol y Cyngor. Mae'n rhagweld diffyg o £21.5 miliwn yn 2011-12 ac £16.3 miliwn yn 2012-13 ac mae ganddo gynlluniau ar waith â'r nod o sicrhau'r arbedion angenrheidiol. Er bod y Cyngor yn rheoli ei gronfeydd yn gymharol dda, mae angen iddo sicrhau ei fod yn gwella ei ddefnydd o dechnoleg ac adeiladau a bod ei gynlluniau'n sicrhau'r arbedion angenrheidiol.

Mae'r gwasanaeth addysg yn helpu ysgolion a phlant i gyflawni canlyniadau gwell a gwella presenoldeb mewn ysgolion. O ran cefnogi pobl mewn angen, mae darlun cymysg o berfformiad gyda rhai anghysondebau yn ansawdd y gwasanaethau cymdeithasol. Mae trefniadau ar gyfer gwella'r gefnogaeth a roddir i ofalwyr ifanc yn cael eu rhoi ar waith. Mae'r Cyngor wedi dangos gwelliant cyson yn y ffordd y mae'n rheoli gwastraff gan gynyddu'r cyfleoedd i ddinasyddion ailgylchu gwastraff.

Mae'r Cyngor yn helpu i adeiladu cymuned fwy diogel a chryfach drwy weithio gyda phartneriaid yn lleol drwy raglenni cymdogaethol, gan ymgysylltu â'r gymuned a mynd i'r afael â phroblemau lleol â blaenoriaeth, i wella'r amgylchedd a lleihau troseddau.

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>