2011

Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol ar Gyngor Sir Y Fflint

Heddiw mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar Gyngor Sir y Fflint sy'n ystyried pa mor dda y mae'r Cyngor yn gwella ei wasanaethau.

28/01/2011

Nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru rai negeseuon pwysig ynglyn â sut mae Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu gwella ei wasanaethau yn ei Adroddiad Gwella Blynyddol 2009-10. Adroddiad newydd yw hwn, yn dilyn deddfwriaeth newydd ym mis Ebrill 2010, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i gynghorau wneud trefniadau i wella eu gwasanaethau a'u dulliau gweithio. Bu'r flwyddyn gyntaf yn gyfnod o addasu, ac mae'r adroddiad hwn yn fan cychwyn i'r Archwilydd Cyffredinol wneud asesiadau llawer mwy cynhwysfawr ynglyn â sut mae cynghorau yn perfformio yn y dyfodol.

Prif neges yr adroddiad oedd bod y Cyngor yn mynd ati i hyrwyddo a dangos gwelliant, ac mae rhai trefniadau heb eu datblygu'n llawn. Dyma grynodeb o'r casgliadau allweddol.

Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi dechrau mynd i'r afael â rhai materion yr oedd wedi methu eu datrys. Rydym wedi gweld llawer o welliannau da yn y ffordd mae'r Cyngor yn cael ei reoli ond mae'r sefyllfa wleidyddol yn fregus ac nid yw'r trefniadau i reoli ei arian a'i staff wedi'u datblygu'n llawn.

Mae blaenoriaethau a pholisïau'r Cyngor yn dod yn gliriach ac mae ganddo agwedd dda at weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill.

Mae cynlluniau ar waith i fynd i'r afael â'r gostyngiadau yng nghyllid y llywodraeth yn y dyfodol trwy 'Raglen Dyfodol Sir y Fflint'. Mae'n cynnwys agwedd strategol at y newidiadau a'r dewisiadau sydd angen eu gwneud i sicrhau arbedion o £12 miliwn yn 2011-12 ac arbedion pellach yn y ddwy flynedd ddilynol.

Mae'r Cyngor wedi nodi 40 o flaenoriaethau ar gyfer gwella gwasanaethau a'r ffordd mae'r Cyngor yn gweithredu. Mae'r rhain yn cysylltu â'r pum thema yng 'Ngweledigaeth y Sir' yn Strategaeth Gymunedol Sir y Fflint, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn amcanion cyfredol i'r Cyngor.

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau sydd wedi'u rheoli'n dda i blant ac mae wedi llwyddo i hyrwyddo canlyniadau gwell i blant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal. I oedolion, mae'r ystod o wasanaethau i gefnogi annibyniaeth wedi cynyddu ac mae'r Cyngor a'i bartneriaid yn rhyddhau cleifion o ysbytai yn effeithiol ac yn brydlon. Mae angen gwella rhai meysydd gofal cymdeithasol o hyd, ac mae'r rhain yn flaenoriaeth i'r Cyngor. Maent yn cynnwys mynd i'r afael â chostau a'r galw am ddarpariaeth y tu allan i'r sir ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

Mae gwariant ar addysg wedi cynyddu ac mae'r Cyngor ymhlith y grwp gorau o gynghorau o ran canlyniadau disgyblion 16 oed. Mae cynllun wedi'i gyflwyno i Lywodraeth y Cynulliad i fynd i'r afael â'r angen i foderneiddio darpariaeth ar gyfer pobl ifanc 14-19 oed.

Mewn hinsawdd economaidd anodd, mae'r Cyngor yn parhau i hyrwyddo gweithgareddau hamdden ac mae'n gwella darpariaeth mewn rhai canolfannau, gan gynnwys Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. Er bod trefniadau casglu gwastraff cyfredol yn cyd-fynd â chyfartaledd Cymru, mae'r Cyngor wrthi'n datblygu trefniadau rheoli gwastraff tymor canolig a hir mewn partneriaeth â chynghorau eraill.

Mae'r Cyngor yn awyddus i wella'r sefyllfa dai yn Sir y Fflint. Mae wedi datblygu 'Strategaeth Tai Fforddiadwy' ac mae'n cymryd camau i wella gwasanaethau cynnal a chadw ac atgyweirio tai. Caiff dull rheoli stoc tai'r Cyngor yn y dyfodol ei bennu trwy bleidlais tenantiaid. Mae'r Cyngor yn gwneud cynnydd ar y materion hyn, er bod llawer o waith i'w wneud o hyd.

Mae gwelliant sylweddol wedi bod mewn sawl maes gwasanaeth, er bod cyflymder y newid wedi bod yn rhy araf mewn rhai achosion. Mae'r Cyngor wedi bod yn araf yn cwblhau ei Gynllun Datblygu Unedol.

Mae datganiadau o gyfrifon y Cyngor yn adlewyrchiad cywir a theg o drafodion ariannol y Cyngor.

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>