2011

Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol ar Gyngor Sir Powys

Heddiw mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar Gyngor Sir Powys sy'n ystyried pa mor dda y mae'r Cyngor yn gwella ei wasanaethau.

28/01/2011

Yn ei adroddiad gwella blynyddol ar gyfer 2009-10 nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru rai negeseuon pwysig ynghylch y ffordd y mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu gwella ei wasanaethau. Yr adroddiad hwn yw'r cyntaf o'i fath, yn dilyn deddfwriaeth newydd ym mis Ebrill 2010, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau wneud trefniadau i wella eu gwasanaethau a'r ffordd maent yn gweithio. Bu'r flwyddyn gyntaf hon yn un o addasu, ac mae'r adroddiad hwn yn fan cychwyn i'r Archwilydd Cyffredinol gynnal asesiadau mwy cyflawn o'r ffordd y mae cynghorau'n perfformio mewn blynyddoedd i ddod.

Prif neges yr adroddiad oedd bod y Cyngor wedi cael anhawster cyflawni ei flaenoriaethau yn y gorffennol ac felly mae'n ymrwymedig i newid ei ffordd draddodiadol o ddarparu gwasanaethau drwy adrannau unigol. Mae'r Cyngor yn datblygu dull uchelgeisiol a thrawsbynciol sydd â'r potensial i gyflawni gwelliannau os caiff trefniadau ategol eu rhoi ar waith yn gyflym. Ceir crynodeb o gasgliadau allweddol yr adroddiad isod.

Bu'r Cyngor yn araf i newid. Cofnodwyd hefyd nad yw'r Cyngor yn cael gwybodaeth dda am sut mae'n perfformio nac yn gwneud y defnydd gorau o'i bobl a TG. Er bod y Cyngor yn rheoli ei faterion ariannol yn gymharol dda, nid yw'n cynllunio digon ar gyfer y dyfodol.

Cyhoeddodd y Cyngor ei amcanion gwella yn ei Gynllun Gwella Corfforaethol ym mis Gorffennaf 2010. Ers i ni gyhoeddi ein Hasesiad Corfforaethol, er bod y Cyngor wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, nid yw wedi dangos hyd yma ei fod yn gwybod yn glir beth y mae angen iddo ei wneud i gyflawni ei amcanion gwella, a ph'un a all fforddio i wneud hynny.

O ran helpu pobl mewn angen, mae angen hirsefydledig i foderneiddio gwasanaethau i oedolion. Her fawr sy'n wynebu'r Cyngor yw'r cynllun i integreiddio gwasanaethau'r Cyngor a'r Bwrdd Iechyd er mwyn gwella eu hansawdd a'u heffeithlonrwydd, a sicrhau canlyniadau buddiol i ddinasyddion Powys. Mae angen i'r Cyngor sicrhau y rhoddir trefniadau llywodraethu priodol ar waith a'i fod yn datblygu'r gallu a'r capasiti angenrheidiol i gyflwyno'r newid hwn er mwyn cyflawni ei agenda gwella uchelgeisiol.

Ymhlith yr heriau allweddol eraill sy'n wynebu'r Cyngor mae lleihad yn nifer y disgyblion ac ôl-groniad o ran gwaith cynnal a chadw ysgolion a cholegau. Mae strategaeth y Cyngor ar gyfer mynd i'r afael â'r heriau hyn yn ei chamau cynnar ond mae ganddi rai nodweddion cadarn.

Ôl-troed ecolegol Powys oedd yr uchaf ond un yng Nghymru. Mae'r Cyngor wedi pennu amcan i leihau faint o wastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi ac, er ei fod yn tanberfformio ar hyn o bryd, mae'n cyflwyno gwasanaeth casglu newydd i fynd i'r afael â hyn.

Mae datganiadau cyfrifyddu'r Cyngor yn rhoi darlun cywir a theg o drafodion ariannol yr Cyngor.

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>