Heddiw mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy'n ystyried pa mor dda y mae'r Awdurdod yn gwella ei wasanaethau.
28/01/2011
Nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru rai negeseuon pwysig ynglyn â sut mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn bwriadu gwella ei wasanaethau yn ei adroddiad gwella blynyddol 2009-10. Adroddiad newydd yw hwn, yn dilyn deddfwriaeth newydd ym mis Ebrill 2010, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i gynghorau ac awdurdodau parciau cenedlaethol wneud trefniadau i wella eu gwasanaethau a'u dulliau gweithio. Bu'r flwyddyn gyntaf yn gyfnod o addasu, ac mae'r adroddiad hwn yn fan cychwyn i'r Archwilydd Cyffredinol wneud asesiadau llawer mwy cynhwysfawr ynglyn â sut mae awdurdodau lleol yn perfformio yn y dyfodol.
Un o brif negeseuon yr adroddiad oedd bod arweiniad effeithiol wedi gosod sylfeini cadarn ar gyfer gwelliant. Ond bydd hi'n anodd i'r Awdurdod gynnal y momentwm sydd ei angen ar gyfer gwelliant pellach. Dyma grynodeb o'r casgliadau allweddol.
Mae'r Awdurdod wedi cael ei ailstrwythuro'n llwyddiannus i gryfhau cyfraniad aelodau a sicrhau cyfarwyddyd mwy eglur gan uwch aelodau staff. Mae'r tîm o uwch swyddogion yn fach o hyd, sy'n ei gwneud hi'n anodd rhoi gwelliannau ar waith yn gyflym. Mae partneriaethau yn bwysig i lawer o waith yr Awdurdod ac mae'n rheoli ei staff yn dda hefyd.
Mae'r Awdurdod yn rheoli ei wariant yn effeithiol ac mae wrthi'n ystyried sut bydd yn ymateb i'r toriadau tebygol yn ei gyllid. Mae datganiadau o gyfrifon yr Awdurdod yn adlewyrchiad cywir a theg o drafodion ariannol yr Awdurdod.
Mae wyth amcan gwella'r Awdurdod yn canolbwyntio ar wella dulliau gweithredu'r Awdurdod yn hytrach nag ar wella'r Parc neu wella profiadau pobl sy'n defnyddio'r Parc.
Aethom ati i asesu'r Awdurdod i weld a yw'n gwneud digon i ofalu am y Parc a phobl. Mae un o wyth amcan yr Awdurdod yn cyfeirio at ddarparu gwasanaeth cynllunio rhagorol, sy'n hanfodol er mwyn amddiffyn y Parc yn erbyn datblygiadau amhriodol. Yn 2009-10 collodd y gwasanaeth nifer cymharol uchel o apeliadau cynllunio, er bod y sefyllfa wedi gwella'n sylweddol ers hynny. Mae yna berygl y gall cyhoeddusrwydd anffafriol yn ymwneud â rhai o'r achosion hyn niweidio enw da'r Awdurdod. Mae'r gwasanaeth cynllunio yn ymateb yn araf i gwynion ynglyn â gorfodaeth ond mae ceisiadau cynllunio bellach yn cael eu cymeradwyo yn gymharol gyflym.
Mae un o'r amcanion eraill yn cyfeirio at leihau effaith amgylcheddol yr Awdurdod. Mae'r Awdurdod wedi gwneud yn dda i ddefnyddio 10 y cant yn llai o drydan yn 2009-10 ac i leihau ei ôl troed carbon 13.5 y cant.
Yn gyffredinol, daethom i'r casgliad nad oes digon o wybodaeth ar gael i asesu a yw'r Awdurdod yn gwneud digon i ofalu am y Parc.
Yn yr un modd, aethom ati i asesu'r Awdurdod i weld a yw'n gwneud digon i helpu pobl i ddeall a mwynhau'r Parc yn well. Mae'r Awdurdod yn ymgymryd â nifer o weithgareddau yn y cyswllt hwn, gan gynnwys gwaith i wella mynediad i'r Parc, cynnig gweithgareddau addysgol a darparu gwybodaeth i ymwelwyr. Er ein bod yn sylweddoli pa mor anodd yw mesur pleser a dealltwriaeth pobl, nid oedd gan yr Awdurdod unrhyw wybodaeth i ddangos bod ei weithgareddau yn gwella dealltwriaeth a phleser pobl.