2011

Yr Archwilydd Cyffredinol yn Cyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol Ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Heddiw mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy'n ystyried pa mor dda y mae'r Awdurdod yn gwella ei wasanaethau.

28/01/2011

Yn ei adroddiad gwella blynyddol ar gyfer 2009-10 nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru rai negeseuon pwysig ynghylch y ffordd y mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn bwriadu gwella ei wasanaethau. Yr adroddiad hwn yw'r cyntaf o'i fath, yn dilyn deddfwriaeth newydd ym mis Ebrill 2010, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau ac awdurdodau parciau cenedlaethol wneud trefniadau i wella eu gwasanaethau a'r ffordd maent yn gweithio. Bu'r flwyddyn gyntaf hon yn un o addasu, ac mae'r adroddiad hwn yn fan cychwyn i'r Archwilydd Cyffredinol gynnal asesiadau mwy cyflawn o'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn perfformio mewn blynyddoedd i ddod.

Un o brif negeseuon yr adroddiad oedd bod yr Awdurdod wedi gweithio'n raddol i ddatrys gwendidau a'i fod yn dangos ychydig o gryfderau yn y ffordd y mae'n gweithio. Er bod ei drefniadau yn ddiffygiol o hyd mewn perthynas â rhai pethau, mae penodiad Prif Weithredwr newydd yn gyfle da i'w gwella.

Yn gyffredinol, caiff yr Awdurdod ei redeg yn dda, mae'n sicrhau nad yw'n gorwario ei gyllideb ac mae'n cynllunio'r ffordd orau o ddefnyddio ei arian ar gyfer dyfodol sy'n ansicr yn ariannol. Daethom i'r casgliad fod datganiadau cyfrifyddu'r Awdurdod yn rhoi darlun cywir a theg o drafodion ariannol yr Awdurdod.

Mae'r modd y mae'n rheoli ei staff yn cefnogi gwelliant yn rhannol ac mae'r Awdurdod yn gwneud llawer o waith drwy bartneriaethau. Fodd bynnag, nid yw trefniadau'r Awdurdod bob amser yn gysylltiedig ac yn aml nid oes ganddo wybodaeth i ddangos a yw ei gamau gweithredu yn gwneud gwahaniaeth.

Gwnaethom ystyried perfformiad yr Awdurdod mewn perthynas â thri o'i chwe amcan gwella. Mewn perthynas â'i amcan i 'warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol ardal y Parc', mae camau gweithredu'r Awdurdod yn cynnwys lleihau nifer yr adeiladau hanesyddol sydd mewn perygl a chynyddu arwynebedd y tir a gaiff ei reoli. Er hynny, nid oes digon o wybodaeth i ni asesu a yw'r Awdurdod wir yn llwyddo i gyflawni'r amcan hwn.

Mae'r Awdurdod hefyd wedi pennu amcan i 'ddarparu gwasanaeth cynllunio sy'n bodloni ymgeiswyr a rhanddeiliaid ac sy'n diogelu'r Parc'. Er bod ei wasanaeth cynllunio yn y gorffennol wedi methu â chyrraedd y nod mewn perthynas â rhai pethau, mae'r gwasanaeth bellach yn ennill oddeutu dau o bob tri o'i apeliadau ac mae'n llawer cynt wrth wneud penderfyniadau am geisiadau. Fodd bynnag, mae'r gwasanaeth yn araf wrth ymateb i gwynion gorfodi.

Mewn perthynas â'r amcan i 'hyrwyddo dealltwriaeth well o rinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol', mae'r Awdurdod yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau ac yn casglu ac yn dadansoddi rhywfaint o wybodaeth sy'n helpu i ddangos ei fod yn sicrhau peth llwyddiant yn y maes hwn.

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>