2011

Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol ar Gyngor Bro Morgannwg

Heddiw mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar Gyngor Bro Morgannwg sy'n ystyried pa mor dda y mae'r Cyngor yn gwella ei wasanaethau.

31/01/2011

Yn ei adroddiad gwella blynyddol ar gyfer 2009-10 nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru rai negeseuon pwysig ynghylch y ffordd y mae Cyngor Bro Morgannwg (y Cyngor) yn bwriadu gwella ei wasanaethau. Yr adroddiad hwn yw'r cyntaf o'i fath, yn dilyn deddfwriaeth newydd ym mis Ebrill 2010, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau wneud trefniadau i wella eu gwasanaethau a'r ffordd maent yn gweithio. Bu'r flwyddyn gyntaf hon yn un o addasu, ac mae'r adroddiad hwn yn fan cychwyn i'r Archwilydd Cyffredinol gynnal asesiadau mwy cyflawn o'r ffordd y mae cynghorau'n perfformio mewn blynyddoedd i ddod.

Prif neges yr adroddiad oedd bod arweinyddiaeth gref yn cyflawni gwelliannau mewn meysydd allweddol drwy'r rhaglen newid 'Un Fro', a bod y Cyngor mewn sefyllfa dda i barhau i wella. Ceir crynodeb o'r prif gasgliadau isod.

Mae'r Cyngor yn darparu rhaglen newid sy'n canolbwyntio ar ei ddefnyddwyr gwasanaeth, ac mae'n defnyddio technolegau arloesol newydd i helpu i wella mynediad at wasanaethau a gwneud gwell defnydd o'i adnoddau drwy newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu. Gwnaethom ystyried nifer o feysydd gwasanaeth a gwelwyd bod gwelliannau'n cael eu gwneud yn y rhan fwyaf ohonynt.

Bu'r gwasanaeth addysg yn destun arolygiad ffurfiol gan Estyn a chanfuwyd ei fod yn dda yn gyffredinol, gyda rhagolygon da i wella. Roedd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) o'r farn bod y gwasanaethau cymdeithasol yn mynd i'r afael â phroblemau ac yn dangos arweinyddiaeth effeithiol ar lefelau aelodau a swyddogion.

Mae Estyn ac AGGCC wedi llunio adroddiadau manylach yn dangos cryfderau a meysydd i'w datblygu ac mae'r rhain ar gael ar eu gwefannau unigol. Gwelwyd gwelliannau hefyd yn sgîl sefydlu canolfan gyswllt Un Fro a defnyddio llyfrgelloedd lleol i wella mynediad y cyhoedd i wasanaethau; roedd gweithgarwch y Bartneriaeth Bro Ddiogelach yn mynd i'r afael â materion o bwysigrwydd lleol; ac roedd y Cyngor yn ymestyn gwasanaethau i ddinasyddion o ran rheoli gwastraff. Roedd y rhagolygon ar gyfer gwelliant mewn rhai meysydd gwasanaeth eraill, fel gwella ffyrdd a darparu tai fforddiadwy, yn llai clir gan eu bod yn dibynnu ar gyllid a ffactorau eraill y tu hwnt i reolaeth y Cyngor. Gan gydnabod nad yw ei berfformiad gystal â gweddill Cymru, mae'r Cyngor wedi bod yn gwella'r amser mae'n ei gymryd i ddarparu grantiau cyfleusterau i'r anabl dros y blynyddoedd diwethaf ac mae wedi darparu cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn er mwyn helpu i leihau ei ôl-groniad, ond mae'r cyllid sydd ar gael a'r lleihad posibl yn nifer y therapyddion galwedigaethol yn y dyfodol yn arwain at ansicrwydd ynghylch p'un a fydd y Cyngor yn gallu cynnal y gwelliant a gyflawnwyd hyd yn hyn.
 
Yn ei Gynllun Corfforaethol mae'r Cyngor wedi pennu 34 o amcanion gwella ac mae'n nodi'r camau gweithredu y mae'n bwriadu eu cymryd dros gyfnod o bedair blynedd. Mae'r Cyngor yn cael barn dinasyddion mewn nifer o ffyrdd ac ymddengys bod camau gweithredu a gynigir yn y Cynllun Corfforaethol yn mynd i'r afael â'r rhan fwyaf o'r materion sy'n achosi pryder i ddinasyddion, er nad oedd y Cyngor mor glir ynghylch y ffordd yr oedd yn ymateb i bryderon dinasyddion ynghylch glanweithdra ar y strydoedd a chyflwr y ffyrdd. Mae'r Cyngor yn bwriadu llunio cynlluniau gwasanaeth diwygiedig i helpu i gyflawni camau gweithredu penodol a chynnwys mesurau sy'n ei alluogi i nodi canlyniadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth. Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau eraill ac mae wedi cytuno ar amrywiaeth o flaenoriaethau ac mae'n cynnig datblygu cynlluniau gyda phartneriaid i helpu i'w cyflawni.

Mae datganiadau cyfrifyddu'r Cyngor yn cyflwyno darlun cywir a theg o drafodion ariannol y Cyngor ac mae wedi rheoli ei gyllideb yn dda yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan gyflawni cyllidebau refeniw mantoledig ar lefel cyfarwyddiaeth a lefel gorfforaethol. Mae'r Cyngor wedi datblygu cynllun ariannol tymor canolig sy'n nodi diffyg o £14.2 miliwn mewn arian refeniw yn 2010-11 a £13.3 miliwn yn 2011-12. Fel pob cyngor arall, mae angen iddo fynd i'r afael â rhai heriau sylweddol os yw am sicrhau lefel yr arbedion a ragwelir ganddo. Ar ôl nodi'r bwlch posibl mewn cyllid eisoes, mae'r rhaglen Un Fro yn cynnwys mentrau i sicrhau'r arbedion angenrheidiol.

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>