2011

Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol ar Awdurdod Tân Gogledd Cymru

Heddiw mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru sy'n ystyried pa mor dda y mae'r Awdurdod yn gwella ei wasanaethau.

31/01/2011

Yn ei adroddiad gwella blynyddol ar gyfer 2009-10 nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru rai negeseuon pwysig ynghylch y ffordd y mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn bwriadu gwella ei wasanaethau. Yr adroddiad hwn yw'r cyntaf o'i fath, yn dilyn deddfwriaeth newydd ym mis Ebrill 2010, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau wneud trefniadau i wella eu gwasanaethau a'r ffordd maent yn gweithio. Bu'r flwyddyn gyntaf hon yn un o addasu, ac mae'r adroddiad hwn yn fan cychwyn i'r Archwilydd Cyffredinol gynnal asesiadau mwy cyflawn o'r ffordd y mae awdurdodau tân ac achub yn perfformio mewn blynyddoedd i ddod.

Prif neges yr adroddiad oedd bod arweinyddiaeth sefydlog a gwelliannau i drefniadau llywodraethu corfforaethol yn debygol o gefnogi gwelliant yn y dyfodol, er bod yr Awdurdod yn wynebu rhai heriau. Ceir crynodeb o'r prif gasgliadau isod.

Caiff yr Awdurdod ei redeg yn dda o ran arweinyddiaeth a rheoli pobl. Mae'n gweithio'n dda mewn partneriaeth ag eraill; fodd bynnag, ceir rhai gwendidau o ran rheoli perfformiad ac mae angen datblygu prosesau busnes ymhellach. Rheolwyd cyllideb yr Awdurdod yn dda a gwariwyd arian mewn ffordd briodol. Ar hyn o bryd mae'n rhagweld tanwariant o £105,123 ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol (2010-11). Mae'r Awdurdod yn gwneud paratoadau synhwyrol ar gyfer yr heriau ariannol a wynebir, ac mae'n ystyried amryw o opsiynau ariannol ac opsiynau o ran gwasanaethau. Mae ei gyllideb ar gyfer 2011-12 wedi'i chynllunio i gyflawni enillion effeithlonrwydd gwerth £0.8 miliwn. Mae datganiadau cyfrifyddu'r Awdurdod yn rhoi darlun cywir a theg o'i drafodion ariannol.

Mae'r amcanion gwella a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod yn glir, ac mae gan nifer ohonynt fesurau llwyddiant penodedig. Mae'r Awdurdod yn cydnabod y bydd rhai o'i amcanion gwella yn anodd i'w mesur, a bydd yn datblygu ac yn cyflwyno mwy o ddangosyddion perfformiad lleol.

Mae'r Awdurdod yn gwneud llawer o'r pethau cywir i leihau tebygolrwydd ac effaith tanau ond mae'n cydnabod bod ganddo le i wella. Mae dull yr Awdurdod yn seiliedig ar ddealltwriaeth o'r ffactorau cyfrannol sy'n golygu bod rhai pobl yn fwy tebygol nag eraill o gael tanau yn eu cartrefi. Bu'n gweithio gyda phartneriaid allweddol i nodi a lliniaru risgiau ac mae nifer y tanau yr ymatebwyd iddynt yn lleihau. Ond, mae'n wynebu heriau o hyd, yn enwedig o ran lleihau marwolaethau oherwydd tân yn y cartref. Mae'r Awdurdod yn cynnal nifer o raglenni sydd wedi'u targedu at blant a phobl ifanc mewn perthynas ag atal tanau yn ogystal â diogelwch ar y ffyrdd. Bu cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd a damweiniau difrifol ers 2003, ond mae'r Awdurdod yn gweithio mewn partneriaeth â'r heddlu i wella diogelwch ar y ffyrdd.

Ymatebodd yr Awdurdod i ystod eang o danau a bygythiadau eraill i ddiogelwch. Derbyniodd tua 17,000 alwadau ynglyn ag argyfyngau yn 2009-10. Mae nifer y galwadau maleisus y mae'r Awdurdod wedi'u derbyn ac ymateb iddynt wedi lleihau ers 2004-05, yn bennaf am fod gweithredwyr yr ystafell reoli yn herio galwadau amheus ac am fod camau'n cael eu cymryd yn erbyn pobl sy'n gwneud galwadau maleisus. Bu'r Awdurdod yn gweithio i wneud newidiadau i drefniadau iechyd a diogelwch yn dilyn arolygiad gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ym mis Rhagfyr 2009, ond er hynny bu cynnydd mewn anafiadau i bersonél 'ar ddyletswydd' ac absenoldeb oherwydd salwch ers 2007-08.

Mae'r Awdurdod yn cymryd camau i wella hyfforddiant ac mae ganddo broses dysgu gweithredol gynhwysfawr ar waith, sy'n rhoi cyfle i staff arsylwi digwyddiadau a chasglu gwybodaeth at ddibenion hyfforddiant ac iechyd a diogelwch.

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>