'Ond mae lefelau salwch o hyd yn broblem sylweddol' dywed yr Archwilydd Cyffredinol
28/01/2009
![]() |
|
|
Cyfweliadau |
|
|
Cysylltiadau |
Adroddiad - cliciwch yma i lawrlwytho'r adroddiad - Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch gan Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru - Adroddiad Dilynol
Cliciwch yma i weld y datganiad i'r wasg
Arbedwyd mwy na £24 miliwn mewn amser staff gan y GIG yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2004 a mis Mawrth 2008, diolch i ostwng cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch. Ond, yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr Archwilydd Cyffredinol) mae absenoldeb oherwydd salwch yn dal i fod yn broblem sylweddol yn ymddiriedolaethau'r GIG - gan gostio arian ac amser ac yn y pen draw yn effeithio ar ansawdd gofal cleifion. Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn galw ar gyrff newydd y GIG, a fydd yn cael eu creu yn ddiweddarach eleni drwy ad-drefnu'r gwasanaeth, i ymgorffori arfer da reoli absenoldeb oherwydd salwch er mwyn gostwng y lefelau yn is eto.
Ers mis Ebrill 2004, mae cyflogeion ymddiriedolaethau'r GIG wedi bod yn colli 14 diwrnod gwaith bob blwyddyn, neu ychydig yn fwy na 19 diwrnod calendr yn cynnwys penwythnosau ar gyfartaledd, drwy absenoldeb oherwydd salwch, yn seiliedig ar wythnos safonol o bum diwrnod yr wythnos. Mae hyn yn ostyngiad ers 2002-03 pan roedd y gyfradd ychydig yn fwy na 15 diwrnod gwaith a hanner bob blwyddyn, neu ychydig yn llai na 22 diwrnod calendr ar gyfartaledd. Mae adroddiad heddiw'n amcangyfrif fod y gostyngiad wedi creu o leiaf £6 miliwn y flwyddyn o amser staff ychwanegol yn y gwaith.