Newyddion

Yr adroddiadau gwella blynyddol diweddaraf wedi'u cyhoeddi

Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi cyhoeddi adroddiadau Gwella Blynyddol Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Sir Caerfyrddin, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Sir Ddinbych dros yr wythnos ddiwethaf.


 

27/01/2012


Mae'r adroddiadau hyn ar gael yn llawn ar ein gwefan a gellir eu gweld drwy glicio ar enw pob awdurdod uchod.

Yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror 2012, caiff Adroddiadau Gwella Blynyddol eu cyhoeddi ar gyfer pob un o'r 28 o awdurdodau lleol, sy'n cynnwys cynghorau lleol, Parciau Cenedlaethol a gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Mae'r adroddiadau yn ystyried sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer gwella a darparu eu gwasanaethau.

Gan ddefnyddio gwaith Swyddfa Archwilio Cymru a'r arolygiaethau perthnasol yng Nghymru, Estyn, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), mae'r adroddiadau yn cyflwyno darlun o welliant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan ystyried yr hyn y mae pob awdurdod yn ceisio ei gyflawni a sut mae'n gwneud hynny. 

Mae'r adroddiadau hefyd yn nodi'r cynnydd y mae pob Awdurdod wedi'i wneud ers i'r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi ei Adroddiad Gwella Blynyddol diwethaf, gan ystyried hunanasesiad yr Awdurdod ei hun.

Datganiad i'r wasg ynglyn â'r adroddiadau Gwella Blynyddol - Dydd Gwener 27 Ionawr 2012

Gellir dod o hyd i'r adroddiadau Gwella Blynyddol diweddaraf yn adran gyhoeddiadau'r wefan

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>