Arolygiad arbennig yr Archwilydd Cyffredinol yn galw am gwelliant mewn atebolrwydd a thryloywder wrth reoli'r cyngor
30/01/2012
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddiwylliant cadarnhaol o barch ac ymddiriedaeth sydd wedi cyflwyno manteision; er hynny, mae gormod o anffurfioldeb a diffyg herio effeithiol a chyson wedi gwanhau atebolrwydd, sy'n golygu bod y Cyngor yn agored i beryglon diangen. Dyna gasgliad adroddiad archwilio arbennig a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Cafodd ei arolygiad arbennig ei gynnal mewn ymateb i ddau adroddiad beirniadol ar y Cyngor gan Estyn ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Roedd y ddau adroddiad yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc ond hefyd yn cyfeirio at fethiannau yn arferion yr awdurdod a diffyg llywodraethu effeithiol wrth ddiogelu ac amddiffyn plant.
Bu arolygiad yr Archwilydd Cyffredinol yn ystyried a oedd y gwendidau yn ehangach na'r rhai a nodwyd yn y ddau adroddiad, yn enwedig a oedd gwendidau atebolrwydd a llywodraethu democrataidd yn rhai systemig.
Gwelodd yr arolygiad fod rhai agweddau cadarnhaol iawn yn niwylliant y Cyngor a'r modd y mae'n gweithredu, ond bod angen gwella rhai arferion rheoli a bod angen i Gynghorwyr ymgysylltu'n well. Nid oedd yr arolygiad yn credu bod angen cyflwyno newidiadau cynhwysfawr i fodelau rheoli a llywodraethu.
Datganiad i'r wasg adroddiad Arolygiad Arbennig o Gyngor Sir Penfro - Ionawr 30 2012