Newyddion

Cyfrifon awdurdodau lleol 'wedi'u paratoi'n dda' ar y cyfan er gwaethaf yr heriau

Ond methodd rhai awdurdodau â bodloni'r terfynau amser statudol ar gyfer 2010-11, dywed yr Archwilydd Cyffredinol.

14/02/2012


Cafodd y rhan fwyaf o gyfrifon awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer 2010-11 eu paratoi a'u harchwilio ar amser, gyda dau eithriad, er bod 2010-11 yn flwyddyn heriol oherwydd nifer o newidiadau mewn arferion cyfrifyddu, yn enwedig y ffaith bod awdurdodau lleol wedi gorfod mabwysiadu Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) am y tro cyntaf, a oedd yn newid sylfaenol i'r ffordd y mae datganiadau ariannol yn cael eu paratoi. Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, a gyhoeddir heddiw, yn crynhoi gwaith yr archwilwyr allanol a benodir ganddo i gyrff llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2010-11.

Am gopi o'r datganiad i'r wasg yn llawn, dilynwch y ddolen hon

Am gopi o'r adroddiad, dilynwch y ddolen hon

 

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>