Ni fydd gwelliannau tymor hwy yn digwydd onid eir i'r afael â gwendidau, dywed yr Archwilydd Cyffredinol
16/02/2012
Mae cyfraddau ailgylchu yng Nghymru yn cynyddu, gyda mwy a mwy o aelodau'r cyhoedd yn cymryd rhan. Fodd bynnag, mae gwelliannau tymor hwy yn cael eu llesteirio gan rwystrau sylweddol i gyflawni strategaeth wastraff Llywodraeth Cymru a gwendidau yn y ffordd y caiff perfformiad ei fesur. Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Mae'r adroddiad yn cydnabod ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ailgylchu yn flaenoriaeth, gyda'i gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer cynaliadwyedd, ei thargedau ailgylchu manwl ar gyfer awdurdodau lleol a'r £360 miliwn mewn grantiau gwastraff a roddwyd i gynghorau ers 2000.
Gyda'r gyfradd ailgylchu gyffredinol yng Nghymru yn 43.6 y cant, mae awdurdodau lleol wedi gwneud cynnydd cyson o ran cyflawni targedau gwastraff. Maent bellach yn darparu amrywiaeth o gyfleusterau a gwasanaethau sy'n rhoi'r cyfle i drigolion ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio mwy o wastraff. Mae ailgylchu'n dod yn beth fwyfwy cyffredin ym mywydau beunyddiol llawer o ddinasyddion.
Datganiad i'r wasg llawn ynglyn â Chyfranogiad y Cyhoedd o ran Ailgylchu Gwastraff
Adroddiad llawn Cyfranogiad y Cyhoedd o ran Ailgylchu Gwastraff (PDF)
Trawsgrifiad y fideo o'r Cyfarwyddwr Grwp Alan Morris yn trafod yr adroddiad
Fideo Vimeo o'r Cyfarwyddwr Grwp Alan Morris yn trafod Ailgylchu
Adroddiadau eraill gan yr Archwilydd Cyffredinol yn y maes
Datblygu cynaliadwy a gwneud penderfyniadau busnes yn Llywodraeth Cynulliad Cymru (PDF)
Y Comisiwn Archwilio yng Nghgmru Papur Thema 9: Rheoli Gwastraff