Newyddion

Archwilydd Cyffredinol yn dweud bod yr arian ychwanegol a roddir i fyrddau iechyd lleol yn 'anghynaliadwy'

Mae pob un o'r saith bwrdd iechyd lleol yng Nghymru wedi cyrraedd y safon ofynnol o ran cyfrifyddu a chyflwyno eu gweithgareddau ariannol ar gyfer 2011-12.

20/06/2012

Fodd bynnag, yn achos pedwar bwrdd iechyd, dim ond oherwydd yr arian ychwanegol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol y llwyddwyd i 'fantoli'r gyllideb'. Felly, mae'r pedwar wedi derbyn adroddiadau ychwanegol gan yr Archwilydd Cyffredinol, sy'n tynnu sylw at yr arian ychwanegol a gafwyd i sicrhau eu bod yn 'mantoli'r gyllideb'.

Rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol farn archwilio ddiamod ar ddatganiadau ariannol 2011-12 y saith Bwrdd Iechyd Lleol, gan gymeradwyo pob un ohonynt o ran cyrraedd y safonau gofynnol ar gyfer cyfrifyddu a chyflwyno eu gweithgareddau ariannol.


Hefyd, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol adroddiad ysgrifenedig ar gyfrifon 2011-12 y pedwar bwrdd iechyd a gafodd arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru er mwyn 'mantoli'r gyllideb' ar gyfer y flwyddyn. Mae pedwar adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, a gaiff eu cyhoeddi heddiw ochr yn ochr â'i dystysgrif archwilio ar gyfer pob bwrdd iechyd, yn crynhoi'r pwysau ariannol a wynebwyd a'r arian ychwanegol a gafwyd yn ystod 2011-12 gan bob bwrdd iechyd a'r goblygiadau ariannol o ganlyniad i hynny ar gyfer 2012-13.

Y Datganiad i'r wasg yn llawn

Ceir copïau o gyfrifon yr holl Fyrddau Iechyd Lleol wrth ddilyn y dolenni isod :

Cyfrifon Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan 2011-12

Cyfrifon Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a'r Fro 2011-12

Cyfrifon Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf 2011-12

Cyfrifon Bwrdd Iechyd Lleol Powys 2011-12

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>