Heddiw, mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi cyhoeddi adroddiad yn amlygu tueddiadau ac amrywiadau allweddol o ran y ddarpariaeth gofal iechyd ar draws pedair cenedl y DU.
Mae'r adroddiad yn canfod, er fod y bedair cenedl yn rhannu hanes ac elfennau tebyg, fod yna amrywiadau sylweddol mewn meysydd megis canlyniadau iechyd, gwariant, staffio a safon.
Mae cyfieithiad Cymraeg o'r adroddiad a'r datganiad i'r wasg ar gael ar gais.