|
Mae’r tudalennau hyn yn llawn gwybodaeth o’n cynhadledd gyntaf yn Stadiwm y Mileniwm. Daeth y digwyddiad â mwy na 250 o gynrychiolwyr ynghyd o 112 o gyrff sector cyhoeddus drwy gydol Cymru. Diolch i bawb a oedd yn bresennol am gyfrannu i’r diwrnod.
Nod Cynhadledd gyntaf Swyddfa Archwilio Cymru oedd archwilio sut y gall polisi, cyflawni a rheoleiddio weithio gyda'i gilydd i nodi a sicrhau'r gwelliannau sydd eu hangen yn sector cyhoeddus Cymru.
Os nad oedd modd i chwi fynd i’r digwyddiad, neu os oeddech yn gynrychiolydd a hoffech astudio deunydd o’r diwrnod, a wnewch barhau i ddarllen.
Gwybodaeth gefndirol Gellir cyrchu manylion ychwanegol ynghylch themâu a gweithdai’r gynhadledd yn ein hadran Arweiniad i’r Gynhadledd.
Areithiau: Rydym wedi rhoi holl nodiadau a chyflwyniadau'r siaradwyr sydd ar gael yn yr adran Areithiau.
Rhodri Morgan AC – Prif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru Janet Davies AC – Cadeirydd, Pwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru Syr Peter Gershon Viv Sugar – Cadeirydd, Cyngor Defnyddwyr Cymru
Oriel luniau: Mae casgliad o luniau o’r diwrnod bellach ar gael yn yr adran luniau.
|