Croesawodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman, y tîm o saith, oedd wedi teithio i Swyddfa Archwilio Cymru yng Nghaerdydd o ardal Shenzhen yn Tsieina, sy’n cyd-ffinio â Hong Kong.
Roedd y grwp yn cynnwys Mr Zhigang Chen, Pennaeth y Swyddfa Archwilio, Mr Jian Ke, Pennaeth Isadran y Swyddfa Archwilio a chynrychiolwyr o Sefydliad Datblygu Tsieina a Chyngres Pobl Shenzhen.
Esboniodd staff o Swyddfa Archwilio Cymru ymagwedd y sefydliad tuag at archwilio ac arolygu llywodraeth leol, gyda’i bwyslais cynyddol ar hyrwyddo gwelliannau a lledaenu arferion da. Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i gyfnewid barn ar gymaroldeb arferion archwilio Cymreig a Tsieineaidd.
Cymerodd y ddirprwyaeth o Dsieina rai copïau o adroddiadau diweddar Swyddfa Archwilio Cymru, gan gynnwys Cod Ymarfer Archwilio ac Arolygu’r Archwilydd Cyffredinol y maent yn ystyried ei gyfieithu i Gantoneg.
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Jeremy Colman: “Mae’r ymweliad hwn wedi bod yn gyfle gwych i archwilwyr o ddwy ochr y ddaear i gymharu’r gwahanol ymagweddau tuag at archwiliad cyhoeddus ac i ddysgu o brofiadau ei gilydd. Gobeithiaf fod y tîm o Dsieina wedi gweld bod y daith yn ddefnyddiol ac yn ddiddorol fel y gwnaethon ni.”
|