The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Newyddion > Newyddion
Newyddion
Archwilydd Cyffredinol yn arwain Ymchwiliad Ambiwlans
11/07/2006
Jeremy Colman yn derbyn gwahoddiad i adolygu Ymddiredolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman, yn cadarnhau heddiw ei fod wrth ei fodd i dderbyn gwahoddiad y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal ymchwiliad i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Pasiwyd y cynnig yn swyddogol gan y Cynulliad Cenedlaethol y prynhawn yma.

Bydd yr Ymchwiliad yn archwilio nifer o faterion a wnelo â’r Ymddiriedolaeth, gan gynnwys effeithiolrwydd safonau perfformiad, strwythurau, materion staffio, pwysau ariannol a phwysau o ran adnoddau. Bydd hefyd yn ymchwilio i’r goblygiadau i’r dyfodol ac yn gwneud argymhellion yn unol â hynny. Mae Mr Colman yn gobeithio cyhoeddi adroddiad yn yr hydref.

 


Am gopi o'r datganiad llawn, cliciwch yma.

 


 

<< Back to previous page