|
Gan fod Deddf Troseddau Difrifol 2007 wedi ychwanegu Rhan 3A newydd at Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi cael pwer statudol newydd i gynnal ymarferion paru data. Disgwylir i'r pwer hwn ddod i rym ar 6 Ebrill 2008.
Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn ei gwneud yn ofynnol i baratoi cod ymarfer i reoli ymarferion paru data'r Archwilydd Cyffredinol, ac ymgynghori arno cyn iddo fynd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi llunio Cod Ymarfer drafft ar Baru Data (isod), a byddai'n gwerthfawrogi unrhyw sylwadau a allai fod gennych arno.
Byddai'r Archwilydd Cyffredinol yn hynod ddiolchgar pe byddech yn ystyried y Cod drafft hwn, yn enwedig o ran cwestiynau'r ymgynghoriad a nodir ynddo. Bydd yr ymgynghoriad yn para 12 wythnos, gan ddod i ben ar 5 Mehefin 2008. Anfonwch eich sylwadau i walescode@wao.gov.uk neu drwy ysgrifennu at Martin Peters, Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ. (Mae copïau papur o'r Cod hefyd ar gael gan Martin Peters.) Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi adborth ar y broses ymgynghori ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru.
Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn disgwyl llunio'r Cod terfynol a'i gyhoeddi a'i gyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Gorffennaf 2008, mewn da bryd er mwyn i gyrff sy'n cymryd rhan baratoi am yr ymarfer Menter Twyll Genedlaethol nesaf, a fydd yn dechrau ym mis Hydref 2008.
Cliciwch yma am gopi o fersiwn drafft yr ymgynghoriad
|