Archwilydd Cyffredinol Cymru yw archwilydd Llywodaeth Cymru a'r cyrff cyhoeddus a noddir ganddi a sy'n gysylltiedig ag hi, sydd yn cynnwys cyrff GIG yng Nghymru. Mae hefyd yn gyfrifol am benodi archwilwyr i warchod llywodraeth leol. Maent yn archwilio ac arolygu'n ffurfiol gyfrifon awdurdodau lleol a'u cynlluniau gwella blynyddol.
Mae archwilio cyhoeddus yn llawer fwy eang nag yn y sector preifat ac mae'n gosod dyletswyddau a chyfrifoldebau trwm ar archwilwyr. O ganlyniad, mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi penodi Anthony Barrett o Swyddfa Archwilio Cymru yn archwilydd yr holl brif gyrff llywodraeth leol. Cefnogir Anthony gan archwilwyr mewnol neu archwilwyr o PricewaterhouseCoopers, KPMG a Grant Thornton, oll yn gwmnioedd cyfrifeg preifat wedi eu cymeradwyo.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn adolygu'r broses o leoli uwch archwilwyr ac yn monitro eu perfformiad yn fanwl trwy raglen blynyddol o arolygon rheoli ansawdd.