Yr Amgylchedd

Rydym yn gweithio yn yr amgylchedd naturiol a'r amgylchedd adeiledig, yn cyhoeddi adroddiadau annibynnol mewn nifer eang o feysydd, o ddiogelu'r amgylchedd i lifogydd arfordirol, coedwigaeth a rheoli tir.

Rydym yn awyddus i hyrwyddo arferion da o ran cynaliadwyedd, er enghraifft, drwy argymell sut y gall y sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn fwy cynaliadwy neu reoli adnoddau fel ynni a dwr yn fwy effeithiol.

Rydym hefyd yn archwilio tri awdurdod parciau cenedlaethol Cymru, gan adolygu sut y maent yn rheoli eu harian a ph'un a gaiff eu gwasanaethau eu rhedeg mor effeithiol ac effeithlon â phosibl, gan gynrychioli gwerth am arian.

Cyhoeddiadau a newyddion

Dolenni eraill